Aberpennar

tref yn Rhondda Cynon Taf

Tref yn Rhondda Cynon Taf, Cymru yw Aberpennar (yn wreiddiol Aberpennarth) (Saesneg: Mountain Ash).[1]

Aberpennar
Mathtref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirAberpennar Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.6814°N 3.3792°W Edit this on Wikidata
Cod OSST025915 Edit this on Wikidata
Cod postCF45 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auVikki Howells (Llafur)
AS/auBeth Winter (Llafur)
Map

a leolir yng Nghwm Cynon. Mae ganddi boblogaeth o 7,039.[2] Mae'r gymuned hefyd yn cynnwys pentrefi Cefnpennar, Cwmpennar, Darranlas, Glenboi a'r Drenewydd. Yn hanesyddol, mae'n rhan o Forgannwg.

Llifa Afon Cynon heibio'r dref.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Vikki Howells (Llafur) a'r Aelod Seneddol yw Beth Winter (Llafur).[3][4]

Tarddiad yr enw golygu

Yn hanesyddol, cyfeiriodd yr enw Aberpennar at y fan lle rhed nant Pennar (neu Penarth yn y ffurfiau cynharaf) i Afon Cynon ar ddiwedd ei chwrs i lawr o dir uchel Cefnpennar, ac ar ochr ogleddol tro yn y afon honno. Ceir y ffurf aber pennarthe ym 1570, Aberpennarth ym 1600, a Tir Aber Penarth ym 1638. Yn ôl Gwynedd O. Pierce mae'n bosib taw ffurf amrywiol yw enw'r nant ar "pennardd", sef pentir neu gefnen i dir, yn yr achos hon tir uchel Cefnpennar, lle mae ei tharddiad. Ger y tir a elwid Aberpennar safai plasty'r teulu Bruce (o 1750) a âi dan yr enw Dyffryn, ac ar un adeg ceid Aberpennar fel enw amgen i'r plasty hefyd: Aberpennar alias Dyffryn ym 1691, a Dyffrin alias Aberpennar ym 1717.[5]

Yn wreiddiol, enw tafarn a godwyd ar ddechrau'r 19eg ganrif mewn man ar y stryd a elwir yn Commercial Street heddiw yw enw Saesneg y dref, Mountain Ash. Nid yw'n sicr pwy a'i henwodd a phaham, ond yn ôl un ffynhonnell y tirfeddiannwr John Bruce Pryce a'i henwodd, a medd rhai taw cerddinen (yn Saesneg: mountain-ash) a safai gerllaw oedd ysbrydoliaeth yr enw. Dyddia'r enw o'r 1830au, ac ym 1852 cyfeiriodd dogfen at Mountain Ash Inn mewn pentref o ryw chwe chant o dai a oedd ar fin tyfu'n dref ddiwydiannol, ac a enwyd ar ôl y dafarn,a hynny yn is i lawr yr afon na phlasty'r Dyffryn, ac ar yr ochr orllewinol.[5]

Ysgrifennodd Dafydd Morganwg y camgymeriad hwn yn ei Hanes Morganwg (1874): "Enw cyntefig y lle oedd Aberpenar". Roedd William Thomas (Glanffrwd), ym 1878–88, yn dal i ofidio nad oedd i'r lle "a adwaenir mwyach wrth ei enw Saesneg, Mountain Ash" enw Cymraeg. Dim ond ar droad yr 20g y trosglwyddodd yr hen enw Aberpennar o ochr arall yr afon i ddod yn enw Cymraeg safonol y dref, yn bosib adeg cynnal Eisteddfod Genedlaethol 1905 yno yn ôl Gwynedd O. Pierce.[5]

Hanes golygu

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o lefydd yng Nghymoedd De Cymru, ni ddatblygwyd y dref ryw lawer gan ddiwydiant; eithriad i hyn yw Camlas Aberdâr yn 1818 ond a lenwyd a'i addasu'n ffordd (sef Ffordd Newydd Caerdydd) yn gynnar yn 1933.[6]

Cyfrifiad 2011 golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[7][8][9][10]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Aberpennar (pob oed) (7,374)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Aberpennar) (740)
  
10.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Aberpennar) (6652)
  
90.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Aberpennar) (1,512)
  
46.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion golygu

Eisteddfod Genedlaethol golygu

Cynhaliwyd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn Aberpennar ym 1905 a 1946. Am wybodaeth bellach gweler:

Cyfeiriadau golygu

  1. Burkitt, Sian (2021-10-15). "The Welsh place names at risk of being lost and forgotten". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-16.
  2. Office for National Statistics : Census 2001 : Parish Headcounts : Rhondda Cynon Taf Archifwyd 2012-07-16 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 15 Gorffennaf 2012
  3. Gwefan y Cynulliad;[dolen marw] adalwyd 24 Chwefror 2014
  4. Gwefan parliament.uk; adalwyd 24 Chwefror 2014
  5. 5.0 5.1 5.2 Gwynedd O. Pierce, Tomos Roberts a Hywel Wyn Owen. Ar Draws Gwlad: Ysgrifau ar Enwau Lleoedd (Llanrwst, Gwasg Carreg Gwalch, 1997), t. 9.
  6. "Mountain Ash". Rhondda Cynon Taff. http://webapps.rhondda-cynon-taff.gov.uk/heritagetrail/cynon/mountain_ash/mountainash.htm. Adalwyd 2009-01-01.
  7. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  8. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  9. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  10. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]