Eldra Jarman
telynores ac awdur
Telynores ac awdures o Gymru oedd Eldra Jarman (1917 – 2000).
Eldra Jarman | |
---|---|
Ganwyd | 4 Medi 1917 Aberystwyth |
Bu farw | 24 Medi 2000 Pontypridd Cottage Hospital |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | awdur, telynor |
Plaid Wleidyddol | Plaid Cymru |
Priod | A.O.H. Jarman |
Ganed hi yn Eldra Roberts, yn or-wyres i John Roberts (Telynor Cymru), cynrychiolydd traddodiad y telynorion Roma Cymreig. Daeth hithau yn delynores adnabyddus, a dysgodd tonau gan ei thad, Ernest France Roberts, a thrwyddo ef efallai o'i thaid Reuben Roberts. Cyfansoddodd rai tonau ei hunan hefyd.
Roedd yn briod a'r ysgolhaig A.O.H. Jarman. Ychydig cyn ei marwolaeth, bu'n cydweithio ar sgript y ffilm deledu Eldra, a ddangoswyd at S4C yn 2001, yn seiledig ar ei bywyd cynnar ym Methesda.
Cyhoeddiadau
golygu- Y Sipsiwn Cymreig (1979)
- The Welsh Gypsies: Children of Abram Wood (1991)