Roedd Syr Eldryd Hugh Owen Parry KCMG, OBE (27 Tachwedd 193013 Tachwedd 2022) yn academydd a meddyg Cymreig. Roedd e'n sylfaenydd yr Ymddiriedolaeth Iechyd ac Addysg Drofannol.[1]

Eldryd Parry
Ganwyd27 Tachwedd 1930 Edit this on Wikidata
Bu farw13 Tachwedd 2022 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethacademydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, Marchog-Cadlywydd Urdd Saint Mihangel a Sant Siôr, Medal Donald Mackay, Cymrawd Anrhydeddus Coleg Brenhinol y Llawfeddygon Edit this on Wikidata

Cafodd Parry ei addysg yn Ysgol Amwythig ac astudiodd feddygaeth yng Ngholeg Emmanuel, Caergrawnt.[2] Bu'n gweithio yn y Royal Postgraduate Medical School yn Llundain cyn secondiad i Ysbyty Coleg y Brifysgol, Ibadan, Nigeria, ym 1960. Daliodd sawl swydd yn Nigeria. Yr oedd Parry yn Gymrawd er Anrhydedd o Brifysgol Caerdydd.

Priododd Parry â'r academydd Helen Parry a bu iddo bedwar o blant a phedwar o wyrion ac wyresau. Bu farw Eldryd Parry ar 13 Tachwedd 2022, yn 91 oed. [3]

Llyfryddiaeth golygu

  • Principles of Medicine in Africa[4]

Cyfeiriadau golygu

  1. "THET - Working in partnership to support health workers across the world" (yn Saesneg).
  2. "Fellows | Contact | Emmanuel College, Cambridge".
  3. "Professor Sir Eldryd Hugh Owen Parry death notice". The Times. 17 Tachwedd 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-21. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2022.
  4. Geoff Watts. "Eldryd Parry: lifelong visionary in global health" (PDF). The Lancet (yn Saesneg). Cyrchwyd 21 Tachwedd 2022.