Ibadan
Dinas yn ne-orllewin Nigeria yw Ibadan (Iorwba: Ìbàdàn). Prifddinas a dinas fwyaf Talaith Oyo yw hi. Saif y ddinas ar sawl bryn, tua 160 km o'r môr. Mae ganddi boblogaeth o 1,338,659 yn yr ardal drefol (cyfrifiad 2006) a 2,855,000 yn yr ardal fetropolitaidd (amcangyfrif 2010).[1] Fe'i sefydlwyd ym 1829 fel gwersyll milwrol. Mae'n adnabyddus am ei marchnadau ac am Brifysgol Ibadan, prifysgol hynaf Nigeria.
Math | dinas |
---|---|
Poblogaeth | 2,550,593 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Cleveland |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oyo State |
Gwlad | Nigeria |
Arwynebedd | 3,080 km² |
Uwch y môr | 230 metr |
Cyfesurynnau | 7.3964°N 3.9167°E, 7.3775°N 3.9058°E |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Cenhedloedd Unedig: World Urbanization Prospects, The 2011 Revision Archifwyd 2014-09-04 yn y Peiriant Wayback. Adalwyd 4 Chwefror 2014