Eleanor o Provence

brenhines Lloegr (gwraig Harri III; tua 1223 – 1291)

Roedd Eleanor of Provence (c. 1223 – 24 (neu 25) Mehefin 1291)[1] yn frenhines Lloegr, fel gwraig Harri III, brenin Lloegr, rhwng 1236 a 1272. Roedd hi'n Rhaglaw Lloegr tra bod ei gŵr i ffwrdd ym 1253.[2]

Eleanor o Provence
Ganwydc. 1223, 1222 Edit this on Wikidata
Aix-en-Provence Edit this on Wikidata
Bu farw25 Mehefin 1291 Edit this on Wikidata
Amesbury Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl21 Chwefror Edit this on Wikidata
TadRamon Berenguer IV, Count of Provence Edit this on Wikidata
MamBeatrice o Safwy Edit this on Wikidata
PriodHarri III, brenin Lloegr Edit this on Wikidata
PlantEdward I, brenin Lloegr, Marged o Loegr, Beatrice o Loegr, Edmund Crouchback, Katherine o Loegr, Richard o Loegr, Ioan o Loegr, William o Loegr, Harri o Loegr Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Barcelona Edit this on Wikidata

Merch Ramon Berenguer IV, Iarll Provence, a'i wraig Beatrice, oedd Eleanor. Chwaer hynaf Eleanor oedd Marguerite o Provence, brenhines Ffrainc fel gwraig Louis IX. Roedd ei chwaer, Sancha, yn frenhines yr Almaen, a'i chwaer ifanca, Beatrice, yn frenhines Sisili.

  1. Mab hynaf Eleanor oedd Edward I, brenin Lloegr, a orchfygodd Cymru.
  1. Marged (1240–1275), gwraig Alexander III, brenin yr Alban, a nain Marged, "Y Forwyn Norwy"
  2. Beatrice (1242–1275), gwraig Jean II de Bretagne
  3. Edmund Crouchback, 1af Iarll Lancaster (1245–1296)

Plant a fu farw'n ifanc:

  1. Katherine (1253–1257)
  2. Rhisiart (1247–1256)
  3. John (1250–1256)
  4. Wiliam (1251–1256)
  5. Harri (1256–1257)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Charles Cawley, Medieval Lands, Provence
  2. Strickland, Agnes. Lives of the Queens of England: From the Norman Conquest