Aix-en-Provence
Dinas yn ne Ffrainc yw Aix neu Aix-en-Provence. Saif tua 30 km i'r gogledd o Marseille, yn rhanbarth (région) Provence a département Bouches-du-Rhône. Mae'r boblogaeth tua 141,438 (2010).
![]() | |
![]() | |
Math | cymuned, dinas fawr ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 147,933 ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Maryse Joissains-Masini ![]() |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 ![]() |
Gefeilldref/i | Granada ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bouches-du-Rhône |
Gwlad | Ffrainc ![]() |
Arwynebedd | 186.08 km² ![]() |
Uwch y môr | 173 metr, 73 metr, 501 metr ![]() |
Gerllaw | Arc ![]() |
Yn ffinio gyda | Bouc-Bel-Air, Cabriès, Éguilles, Gardanne, Meyreuil, Le Puy-Sainte-Réparade, Rognac, Rognes, Saint-Cannat, Saint-Marc-Jaumegarde, Le Tholonet, Velaux, Venelles, Ventabren, Vitrolles ![]() |
Cyfesurynnau | 43.5278°N 5.4456°E ![]() |
Cod post | 13080, 13090, 13100, 13290, 13540 ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Aix-en-Provence ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Maryse Joissains-Masini ![]() |
![]() | |
Sefydlwyd y ddinas yn 123 CC gan y conswl Rhufeinig Sextius Calvinus, a roddodd yr enw Aquae Sextiae iddi. Cipiwyd hi gan y Fisigothiaid yn 477 a chan y Mwslimiaid yn 737. Yn y Canol Oesodd, Aix oedd prifddinas Provence.
Adeiladau a chofadeiladau
golygu- Brasserie Deux Garçons
- Cathédrale Saint Sauveur (eglwys gadeiriol)
- Cours Mirabeau
- Fontaine des Quatre Dauphins
- Halle de Grains
- Hôtel de Ville (neuadd y ddinas)
- Musée Granet (amgueddfa)
- Palais de Justice
- Palas yr Archesgob
Enwogion
golygu- Eleanor o Brovence (m. 1291), gwraig Harri III, brenin Lloegr
- Joseph Sec (1715–1794), pensaer
- Paul Cézanne (1839–1906), arlunydd
- Darius Milhaud (1892–1984), cyfansoddwr