Amesbury, Wiltshire

tref a phlwyf sifil yn Wiltshire

Tref a phlwyf sifil yn sir seremonïol Wiltshire, De-orllewin Lloegr, yw Amesbury.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Wiltshire. Saif 8 milltir i'r gogledd o Caersallog, yn nyffryn Afon Avon ar ymyl Gwastadedd Caersallog ar y ffordd hanesyddol sy'n cysylltu Llundain a Warminster a Chaerwysg. Mae'n adnabyddus yn bennaf am fod Côr y Cewri (Stonehenge), un o henebion cynhanesyddol enwocaf y byd, yn gorwedd yn y pwlyf.

Amesbury
Mathtref Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolAmesbury
Poblogaeth10,724 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirWiltshire
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau51.173°N 1.78°W Edit this on Wikidata
Cod OSSU154414 Edit this on Wikidata
Cod postSP4 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 10,724.[2]

Hanes golygu

Ceir nifer o olion cynhanesyddol yn ardal Amesbury, yn cynnwys Côr y Cewri. Dengys tystiolaeth archaeolegol y bu gan y Rhufeiniaid bresenoldeb yno hefyd. Cysgegrwyd Gwion, Esgob Bangor gan Archesgob Caergaint yn Amesbury ar 22 Mai 1177.

Cyfeiriadau golygu

  1. British Place Names; adalwyd 5 Gorffennaf 2020
  2. City Population; adalwyd 30 Awst 2020
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wiltshire. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato