Elen Gwdman
Prydyddes o Ynys Môn oedd Elen Gwdman (fl. 1609). Ychydig iawn a wyddys amdani. Tybir ei bod yn perthyn i is-gangen o deulu'r Woods o ardal Tal-y-llyn, yng ngogledd-orllewin Môn.[1] Mae hi'n enghraifft brin o fardd o ferch yn y cyfnod modern cynnar.
Elen Gwdman | |
---|---|
Ganwyd | 16 g |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, llenor |
Dim ond un gerdd ganddi sydd wedi goroesi, ond mae ei chrefft sicr yn dangos bod Elen yn arfer cyfansoddi barddoniaeth. Anghyffredin iawn hefyd yw testun y gerdd, sy'n gân serch ddi-flewyn ar dafod i ddyn ifanc o'r enw Edward Wyn (m. 1637) o Fodewryd. Ymddengys fod Edward yn rhy fonheddig i ferch o statws cymdeithasol Elen ac aflwyddiannus fu ei charwriaeth. Cwyna Elen am ei anffawd ar ôl i Edward orfod priodi merch arall oedd yn gymar mwy addas iddo.[1]
Llyfryddiaeth
golygu- Unig gerdd Elen Gwdman: Nesta Lloyd (gol.), Blodeugerdd Barddas o'r Ail Ganrif ar Bymtheg, cyf.1 (Cyhoeddiadau Barddas, 1993), cerdd 9.