Bodewryd

pentref ar Ynys Môn

Pentrefan yng nghymuned Mechell, Ynys Môn, yw Bodewryd[1][2] ("Cymorth – Sain" ynganiad ). Mae'n gorwedd yng ngogledd yr ynys tua dwy filltir i'r dwyrain o Llanfechell a thair milltir a hanner i'r de-orllewin o Amlwch.

Bodewryd
Mathpentrefan Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirYnys Môn Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.38°N 4.42°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH3990 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auRhun ap Iorwerth (Plaid Cymru)
AS/auVirginia Crosbie (Ceidwadwyr)
Map

Mae'r enw yn golygu 'Annedd Ewryd', ar ôl y sant cynnar Ewryd/Gerwyd (Lladin: Euridius), sydd fel arall yn anhysbys. Yr unig beth a wyddys amdano yw ei fod, yn ôl traddodiad, yn un o feibion Cynyr Ceinfarfog ac felly'n frawd i'r seintiau Non, Gwen a Banhadlwen.

Roedd Plas Bodewryd yn adnabyddus fel un o'r tai a noddai beirdd Môn yn yr Oesoedd Canol.

Brodor o Fodewryd oedd Edward Wyn (m. 1637), gŵr y brydyddes Elen Gwdman.

Cyfeiriadau golygu

  1. "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
  2. British Place Names; adalwyd 11 Rhagfyr 2021