Eleri Rees
Barnwr o Gymru yw Eleri Mair Rees (ganwyd Morgan, 7 Gorffennaf 1953). Ers 18 Mehefin 2012, mae hi'n Barnwr Preswyl Llys y Goron Caerdydd a Chofiadur Caerdydd, ar ol bod yn farnwr cylchdaith ers 2002.
Eleri Rees | |
---|---|
Ganwyd | Eleri Mair Morgan 7 Gorffennaf 1953 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | barnwr |
Ganed Rees ar 7 Gorffennaf 1953, yn ferch Ieuan Morgan a'i wraig Sarah Alice Morgan (née James). Addysgwyd hi yn Ysgol Ramadeg Ardwyn, ysgol ramadeg yn Aberystwyth. Astudiodd y gyfraith ym Mhrifysgol Lerpwl, gan raddio gyda gradd Baglor yn y Gyfraith (LLB).
Cafodd ei galw i’r bar ym 1975, yn Gray's Inn.[1] Ymbriododd ag Alan Rees yn yr un blwyddyn.Yn hytrach nag ymarfer fel bargyfreithiwr, ymunodd â Gwasanaeth y Llysoedd Ynadon.[1] Rhwng 1983 a 1994, gwasanaethodd fel clerc ynadon yn Llys Ynadon Bexley yn Llundain.
Ym Mai1994, daeth Rees yn Ynad Cyflogedig Metropolitan. Fe'i penodwyd yn Ddirprwy Farnwr Rhanbarth (Llysoedd Ynadon) ym 1992. [2] Ym 1998, fe'i penodwyd hefyd yn Gofiadur Cynorthwyol.[2] Ailenwyd Ynad Cyflogedig yn Farnwyr Rhanbarth (Llysoedd Ynadon).
Ar 18 Gorffennaf 2000, penodwyd Rees yn Gofiadur Cylchdaith Canolbarth Lloegr a Rhydychen.[2][3] Ar 23 Ebrill 2002, fe'i penodwyd yn Farnwr Cylchdaith.[4] Mae hi wedi bod yn Farnwr Cyswllt dros y Gymraeg ers 2002. Ar 18 Mehefin 2012, daeth hi'n Uwch Farnwr Cylchdaith, a’i phenodi’n Farnwr Preswyl Llys y Goron Caerdydd a Chofiadur Caerdydd.[2][5] Ymddeolodd yn 2019.[6]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Neidio i: 1.0 1.1 "Eleri Rees". Judicial Appointments Commission. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-12. Cyrchwyd 11 October 2017.
- ↑ Neidio i: 2.0 2.1 2.2 2.3 "Legal news: appointments and retirements". The Times. 13 Mehefin 2012. Cyrchwyd 11 Hydref 2017.
- ↑ "Crown Office". The London Gazette (yn Saesneg) (55921). 24 Gorffennaf 2000. Cyrchwyd 11 Hydref 2017.
- ↑ "Crown Office". The London Gazette (yn Saesneg) (56557). 2 Mai 2002. t. 5385. Cyrchwyd 11 October 2017.
- ↑ "Senior Circuit Judge Appointment – Rees". Ministry of Justice (yn Saesneg). 11 Mehefin 2012. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Chwefror 2013. Cyrchwyd 11 Hydref 2017.
- ↑ "Senior Circuit Judge Retirement: Rees Ymddeoliad Yr Uwch Farnwr Cylchdaith: Rees". Courts and Tribunals Judiciary. 7 Rhagfyr 2019. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2024.