Mae eli haul yn hufen arbennig a ddefnyddir ar gyfer y diben o leihau amlygiad y croen i ymbelydredd uwchfioled (UF) yr Haul. Mae eli haul effeithiol yn amddiffyn rhag pelydr UFA a UFB : mae pelydrau UFB (ac i raddau llai UFA) yn gallu achosi llosg haul a cancr y croen a mae pelydrau UFA yn achosi heneiddio cynamserol y croen.

Eli haul

Fel arfer, mae eli haul yn cynnwys cynhwysion fel gadwolion, asiantau i sefydlogi y emwlsiwn, gwrth-radicalau rhydd (fitamin E neu fitamin C, er enghraifft), tewychwyr ac asiantau lleithio.

Yn Ewrop a Japan, mae eli haul yn cael eu hystyried yn golur, tra yn Awstralia, Canada ac yn yr Unol Daleithiau maent yn cael eu dosbarthu fel cyffuriau. Cafodd y term "sgrin cyfanswm" ei wahardd yn Ewrop yn 2006 am eli haul, oherwydd nid oes un ohonynt gall flocio 100% o belydrau UF.

Hanes golygu

Dyma gofnod ar gerdyn post wedi ei ysgrifennu yn Llandudno ar 6 Gorffennaf 1914: ..the weather is champion, I have had to get some cream for my face already.[1]