Mae eli hedfan, neu ehedeli, yn eli rhithbair y dywedir iddo gael ei ddefnyddio gan wrachod wrth arfer dewiniaeth Ewropeaidd ers y cyfnod Modern Cynnar, pan gofnodwyd gyntaf ryseitiau manwl ar gyfer paratoadau o'r fath a phan ledaenodd eu defnydd i Ogledd America drefedigaethol.

Preparation for the Witches' Sabbath (Paratoi at Saboth y Gwrachod) gan David Teniers yr Ieuaf. Sylwch ar y chwith wrach hŷn yn darllen grimoire wrth eneinio pen-ôl gwrach ifanc sydd ar fin hedfan i'r saboth ar ysgubell â'i phen i lawr gyda channwyll ar ei brigau
Saboth Gwrachod gan Frans Francken yr Ieuaf . Sylwch ar dde eithafol y llun botiau o eli hud a gwrach hŷn yn rhoi eli ar gefn gwrach iau noeth

Yr enw

golygu

Mae'r eli yn cael ei adnabod gan amrywiaeth eang o enwau, gan gynnwys eli hedfan gwrachod, eli gwyrdd, ennaint hud, neu eli lycanthropig. Yn yr Almaeneg yr oedd yn Hexensalbe (yn llythrennol 'eli gwrach') neu Flugsalbe (yn llythrennol 'eli hedfan'). Yr oedd enwau Lladin yn cynnwys unguentum sabbati (yn llythrennol 'eli saboth'), unguentum pharelis, unguentum populi (yn llythrennol 'eli aethnen'), neu unguenta somnifera (yn llythrennol 'eli cysgu').[1][2]

Cynhwysion

golygu

Nododd Francis Bacon ("Yr Arglwydd Verulam") fod eli'r gwrachod yn cynnwys "braster plant a gloddiwyd allan o'u beddau, suddion helogan, llysiau'r blaidd, a phumbys, wedi'i gymysgu â blawd gwenith mân."

 
Cynhwysyn: Cedowrach, Atropa belladonna
 
Cynhwysyn: Llewyg yr Iâr Du, Hyoscyamus niger
 
Gwrachod yn hedfan i'r Saboth: Capricho Rhif 68: Linda maestra (Athro Pretty) gan Francisco Goya - o'r gyfres Los Caprichos

Yn wahanol i gynhwysion a nodwyd gan Bacon, mae'r cynhwysion gwenwynig a restrir mewn ysgrifeniadau ethnobotaneg yn cynnwys: cedowrach,[3] clychau llewyg yr iâr, afal dreiniog, llewyg yr iâr du, mandrac, cegiden cegid, a/neu lysiau'r blaidd,[4][5][6] gyda'r rhan fwyaf ohonynt yn cynnwys atropin, hyosÿamin, a/neu sgopolamin.[7] Gall sgopolamin achosi effeithiau seicotropig pan gaiff ei amsugno'n drawsdermaidd.[8] Mae'r alcaloidau tropan hyn yn cael eu dosbarthu fel deliriannau o ran eu heffeithiau seicoweithredol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Rätsch, Christian (2005). The Encyclopedia of Psychoactive Plants: Ethnopharmacology and Its Applications. Simon and Schuster. t. 3295. ISBN 9781594776625.
  2. Rätsch, Christian; Müller-Ebeling, Claudia (2006). Pagan Christmas: The Plants, Spirits, and Rituals at the Origins of Yuletide. Simon and Schuster. t. 403. ISBN 9781594776601.
  3. Schultes, Richard Evans; Hofmann, Albert (1979). The Botany and Chemistry of Hallucinogens (2nd ed.). Springfield Illinois: Charles C. Thomas. pps. 261-4.
  4. Rätsch, Christian, The Encyclopedia of Psychoactive Plants: Ethnopharmacology and Its Applications pub. Park Street Press 2005
  5. Schultes, Richard Evans; Albert Hofmann (1979). Plants of the Gods: Origins of Hallucinogenic Use New York: McGraw-Hill. ISBN 0-07-056089-7.
  6. Hansen, Harold A. The Witch's Garden pub. Unity Press 1978 ISBN 978-0913300473
  7. Furst, Peter T. Hallucinogens and Culture pub. Chandler and Sharp 1976 (volume in series on cross-cultural themes) p.138.
  8. Sollmann, Torald, A Manual of Pharmacology and Its Applications to Therapeutics and Toxicology. 8th edition. Pub. W.B. Saunders, Philadelphia and London 1957.

Dolenni allanol

golygu