Sianel sy'n cario mwg oddi wrth le tân, ffwrnais, neu beiriant yw simnai.[1]

Hen simnai'r mwynglawdd yng Nghwmsymlog.

Ceir tair rhan i'r simnai gartref arferol: y ceg, y siambr fwg, a chorn y simnai neu'r ffliw. Mae'r ceg uwchben y tân, a cheir caead o'r enw damper i gau'r sianel pan nas defnyddir y lle tân. Uwchben y damper mae'r siambr fwg, a thuag at ei waelod mae silff fwg sy'n atal tynfa i lawr y simne rhag chwythu mwg i mewn i'r ystafell (neu "fwg taro"). Culha'r siambr fwg tuag at ei brig. Pwrpas y siambr yw i arafu'r tynfa ac i ddal mwg sy'n cael ei atal rhag dianc gan wynt ar y to. Y corn neu'r ffliw yw prif hyd y simnai, ac fe'i wneir o gerrig, yn aml brics, gyda haenen fewnol o fetel. Mae'r simne sy'n fwyaf addas wrth ei gwaith yn fertigol ond weithiau ceir plyg ynddi i atal glaw gyrraedd gwaelod y simnai. Defnyddir hefyd troeon yn y sianel wrth greu un allanfa ar gyfer nifer o gyrn, hynny yw os oes lle tân mewn mwy nag un ystafell.[2]

Corn simnai silindraidd, diateg sy'n sefyll ar ben ei hun yw'r simnai ddiwydiannol fel rheol. Gwneir craidd ei adeiledd o frics tân a'i haen allanol o ddur, brics, neu goncrit cyfnerthedig, ac yn aml gyda gofod o aer rhyngddynt wrth ystyried effaith ehangiad differol.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1.  simnai. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Gorffennaf 2015.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) chimney. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 26 Gorffennaf 2015.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: