Agor y brif ddewislen

Arlunydd o Sbaen oedd Francisco José de Goya y Lucientes (30 Mawrth 174616 Ebrill 1828). Ystyrir ef fel yr olaf o'r Hen Feistri, ond hefyd yn ffigwr allweddol yn natblygiad arlunwaith fodern, gan ddylanwadu ar arlunwyr fel Manet a Picasso.

Francisco Goya
Autorretrato con gafas por Francisco de Goya (Musée Bonnat-Helleu).jpg
Ganwyd 30 Mawrth 1746 Edit this on Wikidata
Fuendetodos Edit this on Wikidata
Bu farw 16 Ebrill 1828 Edit this on Wikidata (82 oed)
Bordeaux Edit this on Wikidata
Man preswyl Quinta del Sordo Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Sbaen Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Colegio PP. Escolapios o Escuelas Pías (Zaragoza) Edit this on Wikidata
Galwedigaeth arlunydd, gwneuthurwr printiau, lithograffydd, engrafwr, ysgythrwr Edit this on Wikidata
Swydd arlunydd llys Edit this on Wikidata
Adnabyddus am La maja desnuda, Sant Bernardino o Siena yn pregethu i Alfonso V, brenin Aragón, Y Ci, Portread o Don Ramón Satué, Y Trydydd o Fai, 1808, La maja vestida, Caprichos Edit this on Wikidata
Arddull portread (paentiad), paentiad mytholegol, paentiad o frwydr Edit this on Wikidata
Mudiad Rhamantiaeth Edit this on Wikidata
Tad José Benito de Goya y Franque Edit this on Wikidata
Mam Gracia de Lucientes y Salvador Edit this on Wikidata
Priod Josefa Bayeu Edit this on Wikidata
Plant Francisco Javier Goya Bayeu Edit this on Wikidata
Llofnod
Firma de Francisco de Goya.svg

Ganed Goya yn Fuendetodos, Sbaen, yn Nheyrnas Aragón yn 1746. Symudodd y teulu i Zaragoza yn ddiweddarach, ac addysgwyd ef yno. Daeth yn brentis i'r arlunydd José Luján pan oedd yn 14 oed. Yn ddiweddarach, symudodd i ddinas Madrid lle astudiodd dan Anton Raphael Mengs, ond ffraeodd ag ef a methodd gael mynediad i'r Academi Frenhinol.

Teithiodd i Rufain ac yna dychwelodd i Zaragoza. Astudiodd dan Francisco Bayeu y Subías, a phriododd Josefa, chwaer Bayeu, yn 1774. Dechreuodd ennill sylw fel arlunydd ac ennill comisiynau. Erbyn y 1790au roedd yn ffefryn y teulu brenhinol, ond wedi iddo ddioddef twymyn yn 1792, aeth yn fyddar. Treuliodd bum mlynedd yn adfer ei iechyd, gan ddarllen llawer am y Chwyldro Ffrengig. Cyhoeddodd gasgliad o luniau dan y teitl Caprichos yn 1799.

Pan feddiannwyd Sbaen gan Ffrainc gan ddechrau rhyfel 1808–1814, dechreuodd Goya weithio ar gyfres o brintiau Trychinebau rhyfel (Los desastres de la guerra). Bu farw Josefa yn 1812. Symudodd i Bordeaux a Paris yn 1824, gan ddychwelyd i Sbaen yn 1826 ac yna mynd i Bordeaux eto, lle bu farw yn 1828 yn 82 oed.

La Maja Desnuda, ca. 1800.
La Maja Vestida, ca. 1803.
Y Colossus, 1810.