Elin Maher
ymgynghorydd addysg Gymraeg
Mae Elin Maher (ganwyd 29 Chwefror 1972) yn ymgynghorydd iaith ac addysg llawrydd.
Elin Maher | |
---|---|
Ganwyd | 29 Chwefror 1972 Gorseinon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater |
Bu yn athrawes uwchradd (Ysgol Gyfun Ystalyfera), yn athrawes ddosbarth yn y sector gynradd ac yn athrawes ymgynghorol.[1][2] Camodd i mewn i faes datblygu cymunedol gyda Menter Iaith Casnewydd. Ers 2021, mae hi'n aelod o Banel Cynghori Comisiynydd y Gymraeg. Yn 2024, hi oedd Cyfarwyddwr Cenedlaethol Rhieni Dros Addysg Gymraeg.
Mae hi'n un o arweinyddion Eglwys Mynydd Seion, Casnewydd, un o gapeli Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Llywodraeth Cymru". Cyrchwyd 28 Ionawr 2024.
- ↑ "Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-01-28. Cyrchwyd 28 Ionawr 2024.