Elinwy mab Cadegr

Rhyfelwr Brythonaidd neu Gymreig cynnar oedd Elinwy fab Cadegr. Ni wyddom lawer amdano heddiw ond mae'r cyfeiriadau canoloesol ato yn awgrymu fod traddodiadau amdano ar gael yng Nghymru'r Oesoedd Canol. Mae'n bosibl mai ffurf ar yr enw personol 'Cadeyrn' a geir yn enw ei dad, sydd fel arall yn ffigwr anhysbys.

Cyfeirir at Elinwy mab Cadegr mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel un o "Dri Tharw Unben Ynys Prydain', gyda Afaon fab Taliesin a Cynhafal fab Argad. Ychwanegir mai "meibion beirdd oeddynt ill tri". Mae fersiwn o driawd arall, yn y gyfres 'Trioedd y Meirch', yn cyfeirio ato fel perchennog yn o 'Dri Eddystr (march) Ynys Prydain', sef Gwegar.[1]

Mae Elinwy yn un o arwyr y nodir lleoliad eu beddau yn y gyfres 'Englynion y Beddau' yn Llyfr Du Caerfyrddin:

Bedd Silydd Dyfal yn Edryfwy le,
Bedd Llemenig yn Llan Elwy;
Yng Ngwernin Bre bedd Elinwy.[2]

Mae lleoliad 'Gwernin Bre' (hen air am 'allt' yw bre) yn anhysbys.

Cyfeiriadau golygu

  1. Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), Trioedd 7 a 46c, nodiadau tt. 126, 323.
  2. A. O. H. Jarman (gol.), 'Englynion y Beddau', Llyfr Du Caerfyrddin (Caerdydd, 1982), 18.152-54. Diweddarwyd yr orgraff Cymraeg Canol.