Cynhafal fab Argad
Un o arwyr yr Hen Ogledd oedd Cynhafal fab Argad (Cymraeg Canol: Cynhaval mab Argat; amrywiad: Cynhafal fab Aergad) (bl. 6g?).
Enghraifft o'r canlynol | ffigwr chwedlonol |
---|
Cyfeirir ato mewn un o Drioedd Ynys Prydain fel un o "Dri Tharw Unben Ynys Prydain', gyda Elinwy mab Cadegr ac Afaon fab Taliesin. Ychwanegir mai "meibion beirdd oeddynt ill tri".
Mae 'Cynhafal' yn enw hen sy'n golygu 'fel ci; tebyg i gi' (cwn [=ci] + hafal). Cyfeirir at ryfelwr o'r enw Cynhafal yn Y Gododdin. Yn ogystal ceir yr enw CUNOVALI (Cynhafal) ar garreg ym Madron, Cernyw.
Ceir Sant Cynhafal hefyd. Yn ôl yr achau roedd yn fab i Elgud ap Cadfarch ap Caradog Freichfras a'i wraig Tubrawst. Cyfeirir ato mewn hen ffynonellau fel 'Cynhafal Sant yn Nyffryn Clwyd'. Yn ôl traddodiad, sefydlodd Cynhafal eglwys Llangynhafal, pentref yn Sir Ddinbych i'r gogledd-ddwyrain o Rhuthun heddiw.
Ffynhonnell
golygu- Rachel Bromwich, Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), Triawd 7, nodiadau tud. 323.