Elis Roberts (Elis y Cowper)

cyfansoddwr a aned yn 1712

Roedd Ellis Roberts (Elis y Cowper) (tua 17121789) yn awdur anterliwtiau a baledwr. [1]

Elis Roberts
Ganwyd1712 Edit this on Wikidata
Llanycil Edit this on Wikidata
Bu farw27 Tachwedd 1789 Edit this on Wikidata
Llanddoged Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethysgrifennwr, cyfansoddwr Edit this on Wikidata

Cefndir golygu

Ganwyd Elis yn ardal y Bala. Erbyn y 1740au 'roedd wedi symud i fyw i Landdoged yn Nyffryn Conwy. Fel mae ei enw barddol yn awgrymu cowper oedd Elis wrth ei waith bob dydd. Gwaith cowper oedd gwneud casgeni a barilau ar gyfer cwrw, gwin, gwirodydd a hylifau eraill. Byddai cowper hefyd yn gwneud llestri pren ac offer ar gyfer y llaethdy megis bwcedi ac offer corddi. [2]

Teulu golygu

Bu Elis yn briod pedair gwaith ac yn weddw teirgwaith. Does dim tystiolaeth ar gadw am enw ei wraig gyntaf. Roedd hi'n dod o'r Bala a bu farw cyn pen blwyddyn a hanner ar ôl priodi. Enwau ei wragedd eraill oedd Elin, Elizabeth a Grace (née Williams.[3]) Bu iddo a'i wragedd o leiaf deg o blant.

Baledi ac anterliwtiau golygu

Yn ei gyflwyniad i'r anterliwt Gras a Natur, 1769, mae Elis yn honni iddo ysgrifennu chwedeg naw o anterliwtiau. Serch hynny dim ond naw ohonynt sydd wedi goroesi.[4] Yn ôl Cynfael Lake yn ei lyfr Brenin y Baledi "Cyfansoddodd Ellis Roberts-Elis y Cowper o Landdoged ger Llanrwst fwy o faledi na'r un awdur arall a oedd yn weithgar yn ystod y ddeunawfed ganrif." [5]

Marwolaeth golygu

Bu farw Elis ar 27 Tachwedd 1789 ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Sant Doged, Llanddoged. [6]

Llyfryddiaeth (rhannol) golygu

Gan Elis y Cowper golygu

  • Dwy o gerddi newyddion. Yn gyntaf rhybydd i bawb feddwl am ei diwedd, a gweled a chlowed rhybuddion ac arwyddion, ag mae Duw yn êi roddi
  • Dwy o gerddi newyddion. I Ymddiddanion Sion yr Haidd, ai gyfaill sef, Morgan Rondol, II O ymddiddanion rhwng y dyn ar wenol bob yn ail Penill
  • Dwy o gerddi newyddion, y gyntaf ar ddull o ymddiddan rhwng y Prydydd a'r swedydd
  • Dwy o gerddi newyddion, y cyntaf yn ddull o ymddiddan, rhwng Morgan Raundel ... a'i hen gyfaill o Gymro:
  • Dwy gerdd ddiddan Y gyntaf ymddiddan rhwng yr Enaid a'r Corph. bob yn ail Penill: ar Belisle March.
  • Ail lythyr hen bechadur at ei gyd frodyr ; wedi sylfaenu ar y geiriau hyn "Gwrando ferch a gwêl," wedi cymmeryd allan o'r bumed psalm a deugain, a'r ddegfed adnod
  • Difrifol fyfyrdod am Farwolaeth, sef, seithfed llythyr, o waith Ellis Roberts
  • Dwy o gerddi newyddion. I. O gwynfan dyn methiant am gynnorthwy ei gydwladwyr. II. Carol duwiol o debygoliaeth am ddydd brawd
  • Llyfr enterlute newydd wedi gosod mewn dull ymddiddanion rhwng gras a natur
  • Dwy o gerddi newyddion: Y gyntaf, o ddîolchgarwch i Dduw a roes allu i George Rodney i orchfygu ein gelynion, ar y ffordd ir India, yn ail carol plygain newydd i'r flwyddyn o Oedran Crist 1783
  • Tair o gerddi newyddion. I Ymddiddan rhwng gwr ifangc ai gariad bob yn eil odl. II Cwynfan merch ifangc am garu'n feddal. III Clôd ir Lord Pased, or Plâs Newydd Sir Fôn
  • Tair o ganeuon newyddion Yn gyntaf, Carol i'w ganu Nos Basg, ar Susanna, o waith Ellis Roberts ... Yn ail, Cyngor i ferchaid ifangc. Yn drydydd, Deisyfiad gwr ifangc at ei gariad
  • Dwy o gerddi newyddion: I O hanes dychryn ofnadwy a fu yn yn yr Italia modd y darfu i Dduw singcio tri-chant o drefydd, a thair o dresydd caerog; ac nid oes yno ddim ond llyn o ddwr di-waelod. II. Ymddiddan rhwng gwr ifangc ai gariad, bob yn ail penill
  • Dwy o gerddi newyddion: I. Yn ceisio gosod allan am y llywydd sydd yn y nefoedd, ar gwyrufyd ar hapurwydd fydd ir fawl ai cafodd. II. Ymddiddan rhwyng dŷn a'î gydwybod, bob yn ail odl
  • Dwy o gerddi newyddion: I. O drymder galarus am Royal George yr hon a suddodd yn ei harbwr, gyda mi o bobl ad arni lle yr aeth tri chant e ferched i'r aelod a phlant gyda nhw. II. O fawl i ferch
  • Dwy o gerddi newyddion: I Yn rhoi byrr hanes dynes a wnaeth weithred ofnadwy ym mhlwy Llansantffraid Glan Conwy, sef diheunyddio ffrwyth ei byw ai ado fe rhwng bwystsilod y ddaear. II Cerdd ar ddioddefaint Crist, wedi ei throi or Groeg ir Gymraeg
  • Tair o gerddi newyddion. Yn gyntaf, Cerdd er dwyn ar gof i ddynion ddyll y poennau y mae 'r enaid colledig yn i ddiodde yn uffern gida dysyfiad ar ddynion aniwiol ddychwelyd at Dduw i'w chanu ar Grimson Velfett. Yn ail, Dechre cerdd ar iath y part y ffordd hwyaf o ymddiddan rhwng dynn ai gydwybod. ... Yn drydydd, Cerdd i'w channu ar Susan Lygad-ddy neu Black-Eye Susi gan Hugh Roberts
  • Dwy gerdd newydd, y gyntaf, Cerdd o fawl i filitia Swydd Aberteifi, ynghyd ivr officers, gan roddi iddynt glod fel y maent yn ei haeddu: Yr ail, Cerdd a anfonodd Ellis Roberts at Thomas Edwards, ar ddull ymofyn pa achos fod cymmaint llygredd a dallineb yn Eglwys Loegr, &c by Richard Roberts( )
  • Dwy o gerddi newyddion: I I ddeisyf ar Dduw am drugaredd, ai raglunieth i'n porthi y flwyddyn ddiweddar hon drwy fyn uno; roddi ef fendith ar yr ychydig liniath at ein porthi. II O ychydig o hanes y fater a fu'n Gibraltar Y modd y cynorthwyodd Duw ychydig o wyr Prydain ym mhen llawer gelynion
  • Dwy o gerddi newyddion y gyntaf ynghylch rhyfeddode a welwyd yn y Cwmmyle, sef llûn Dŷn a chledde yn ei law ai hett yn dair gwalc, ai wyneb at y Dwyrain; ar ei droed o flaen y Hall, sef un am gochwyn: ai liw oedd yn gôch. Yn ail O gwynfan am un ar-ddêg o Longwyr y Bermo a Dolgelley sydd yn garcharorion yn Ffraing dan ddwylo eu Gelynion

Am Elis y Cowper golygu

  • Llên y Llenor: Elis y Cowper; G.G. Evans[7]
  • Llyfrau Llafar Gwlad: 93. Elis y Cowper - Brenin y Baledi; Cynfael Lake [8]


Cyfeiriadau golygu

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig Elis Roberts (Elis y Cowper)
  2. Ceredigion: cylchgrawn Cymdeithas Hanes Ceredigion; Cyf. 14, Rhif 3, 2003, tud. 91. GALAR HEN HIL adalwyd 6 Hydref 2021
  3. Archifau Cymru, Cofrestr Priodasau Plwyf Llanrwst 27 Chwefror 1764
  4. ODNB Roberts, Ellis (known as Elis y Cowper)
  5. Lake, Cynfael Elis y Cowper - Brenin y Baledi ; Gwasg Carreg Gwalch, 2019 ISBN: 9781845276935
  6. Archifau Cymru Cofrestr Claddu Llanddoged 1 Rhagfyr 1789
  7. Evans, G. G. (1995). Elis y Cowper. Caernarfon: Gwasg Pantycelyn. ISBN 1-874786-33-X. OCLC 32868358.
  8. Roberts, Ellis (2019). Elis y Cowper : Elis Roberts, Llanddoged : Brenin y Baledi. A. Cynfael Lake (arg. Argraffiad cyntaf = First edition). Llanrwst, Dyffryn Conwy [Wales]. ISBN 978-1-84527-693-5. OCLC 1083137214.CS1 maint: extra text (link)