Llanycil

pentref a chymuned yng Ngwynedd

Pentref, cymuned a phlwyf eglwysig yng Ngwynedd ydy Llanycil ("Cymorth – Sain" ynganiad ), sydd wedi ei leoli tua 12 milltir i'r de orllewin o Gorwen a 15 milltir i'r gogledd ddwyrain o Dolgellau. Hyd 1974 bu'n ran o Sir Feirionnydd.

Llanycil
Mathcymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth445 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.9°N 3.6°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000088 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruMabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)
AS/au y DULiz Saville Roberts (Plaid Cymru)
Map

Cysgegrir eglwys y plwyf i Sant Beuno.

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Liz Saville Roberts (Plaid Cymru).[2]

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llanycil (pob oed) (416)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llanycil) (325)
  
80.4%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llanycil) (312)
  
75%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer dros 16 sydd mewn gwaith (Llanycil) (45)
  
26.3%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Eglwys Sant Beuno

golygu

Saif Eglwys Sant Beuno ar lan Llyn Tegid, rhwng y llyn a'r A494; cyfeirnod OS: SH9146934868. Fe'i cofnodir am y tro cyntaf yn 1291. Ynddi, ers 2016, lleolwyd amgueddfa ar Mari Jones, ac ni cheir gwasanaethau. Yn agos at yr eglwys roedd yma unwaith ffynnon o'r un enw: Ffynnon Beuno. Yr ochr arall i'r briffordd mae hen Reithordy. Mae'r eglwys wedi'i chofrestru'n Gradd II a'i chodi o garreg lleol. Yn haenau isaf y waliau gellir gweld brics Rhufeinig a cherrig a gludwyd yma o Gaer Gai, hen gaer Rufeinig a leolir tua milltir i gyfeiriad Llanuwchllyn.[6]

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Coflein[dolen farw]; adalwyd 23 Mai 2016

Dolen allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Wynedd. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato