Llanddoged

pentref ym Mwrdeistref Sirol Conwy

Pentref bychan yng nghymuned Llanddoged a Maenan, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Llanddoged.[1] Gorwedd y pentref ar lethrau dwyreiniol Dyffryn Conwy tua milltir a hanner i'r gogledd o Lanrwst.

Llanddoged
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirConwy Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.157°N 3.787°W Edit this on Wikidata
Cod OSSH806637 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruJanet Finch-Saunders (Ceidwadwyr)
AS/au y DUClaire Hughes (Llafur)
Map

Yn ôl traddodiad, sefydlwyd Llanddoged gan Sant Doged (bl. 500-542). Mae'n bosibl mai'r un yw'r Doged hwn â'r 'Doged Frenin' y cyfeirir ato yn y chwedl Culhwch ac Olwen. Llanddoged yw'r unig eglwys a gysylltir â Doged. Ar un adeg bu cerflun ohono yn yr eglwys. Mewn cae 60m o'r eglwys bresennol ceir Ffynnon Ddoged. Mae wal o gerrig o'i chwmpas a dywedir ei bod yn iachau nam ar y llygaid. Claddwyd y telynor Evan Jones (Ifan y Gorlan) (1787-1859) ym mynwent yr eglwys.

Ceir ysgol gynradd a pharc yn y pentref.

Cyfeiriadau

golygu
  1. British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021