Eliza Calvert Hall
Ffeminist Americanaidd oedd Eliza Calvert Hall (11 Chwefror 1856 - 3 Rhagfyr 1935) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur, swffragét ac ymgyrchydd dros bleidlais i ferched.
Eliza Calvert Hall | |
---|---|
Ffugenw | Eliza Calvert Hall |
Ganwyd | 11 Chwefror 1856 Bowling Green |
Bu farw | 3 Rhagfyr 1935, 20 Rhagfyr 1935 Wichita Falls |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | llenor, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched |
Swydd | ymgyrchydd dros hawliau merched |
Adnabyddus am | Aunt Jane of Kentucky |
Fe'i ganed yn Bowling Green, Kentucky ar 11 Chwefror 1856; bu farw yn Wichita Falls, Texas. Wedi gadael yr ysgol mynychodd Goleg Ferched, Western.[1][2][3]
Ysgrifennai Lida Obenchain o dan y llysenw Eliza Calvert Hall, a daeth yn adnabyddus iawn dros nos am ei straeon byrion yn cynnwys gwraig weddw oedrannus, "Modryb Jane", a siaradai'n blaen am y bobl roedd hi'n eu hadnabod a'i phrofiadau yn y De Gwledig (Deep South).[4][5]
Gwaith mwyaf adnabyddus Lida Obenchain yw Aunt Jane of Kentucky a ddaeth yn hynod o boblogaidd pan argymhellodd Arlywydd yr Unol Daleithiau Theodore Roosevelt y llyfr i bobl America yn ystod araith, gan ddweud, "Rwy'n argymell yn gynnes bennod gyntaf Modryb Jane o Kentucky fel llwybr i bob teulu lle mae'r dynion yn tueddu i ddiystyru hawliau eu menywod."[6][7]
Magwraeth
golyguRoedd Eliza Caroline Calvert yn ferch i Thomas Chalmers Calvert a Margaret (Younglove) Calvert. Cafodd ei hadnabod fel "Lida" trwy gydol ei hoes.[8] Ganwyd tad Lida, Thomas Chalmers Calvert yn Giles County, Tennessee i Samuel Wilson Calvert, gweinidog Presbyteraidd, a'i wraig Eliza Caroline (Hall) Calvert. Roedd mam Lida, Margaret Younglove, yn dod o Johnstown, Efrog Newydd.[9][10]
Mynychodd Lida ysgol breifat leol, ac yna Western Female Seminary yn Oxford, Ohio. Dilynodd ddwy yrfa a oedd yn dderbyniol i fenyw sengl yn ei chyfnod: dysgu mewn ysgol ac ysgrifennu barddoniaeth sentimental. Dechreuodd ei gyrfa ysgrifennu proffesiynol er mwyn helpu i gynnal ei mam, ei brodyr a'i chwiorydd. Derbyniodd cylchgrawn Scribner Monthly ddwy o’i cherddi i’w cyhoeddi ym 1879 a thalu’r hyn sy’n cyfateb heddiw i US $ 600. Parhaodd i ysgrifennu a chyhoeddwyd o leiaf chwe cherdd arall cyn ei bod yn ddeg ar hugain oed.[10]
Ar Orffennaf 8, 1885, priododd Lida â'r Uwchgapten William Alexander Obenchain, ag yntau'n 44 oed. Roedd Obenchain yn gyn-filwr, yn frodor o Virginia ac wedi ymladd yn Rhyfel Cartref America; yn 1883 fe'i benodwyd yn llywydd Coleg Ogden, ysgol ddynion fach yn Bowling Green. Cafodd Lida a William bedwar o blant: Margery, William Alexander Jr (Alex), Thomas Hall a Cecilia (Cecil). Oherwydd ei chyfrifoldebau teuluol, nid oedd ganddi lawer o amser i ysgrifennu. Fe wnaeth ei rhwystredigaeth fel gwraig tŷ ddi-dâl ei hysgogi i gefnogi'r achos dros bleidlais i fenywod (neu etholfraint) ac i weithio gyda Chymdeithas Hawliau Cyfartal Kentucky.
Anrhydeddau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Disgrifiwyd yn: https://documents.alexanderstreet.com/c/1009677121.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018.
- ↑ Dyddiad geni: "Eliza Calvert Hall". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Niedermeier, Lynn E. (2004). "A 1908 Interview With the Author of "Aunt Jane of Kentucky"". Landmark Report. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mehefin 2011. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010. Unknown parameter
|dead-url=
ignored (help) - ↑ Galloway, Ewing (30 Awst 1908). "Eliza Calvert Hall Is Seen At Close Range". Henderson Daily Gleaner. Henderson, Kentucky: Henderson Daily Gleaner. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-10-08. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010.
- ↑ Cyfieithwyd o: "I cordially recommend the first chapter of Aunt Jane of Kentucky as a tract in all families where the menfolk tend to selfish or thoughtless or overbearing disregard to the rights of their womenfolk."
- ↑ Niedermeier, Lynn E. (2007). "Aunt Jane of Kentucky". Eliza Calvert Hall: Kentucky Author and Suffragist. Lexington, Kentucky: University Press of Kentucky. tt. 120–130. ISBN 0-8131-2470-0. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010.
- ↑ Niedermeier, Lynn E. (2007). "It Did Not Look as We Had Pictured You". Eliza Calvert Hall: Kentucky Author and Suffragist. Lexington, Kentucky: University Press of Kentucky. tt. 12–24. ISBN 0-8131-2470-0. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010.
- ↑ Niedermeier, Lynn E. (2007). "Fighting and Preaching". Eliza Calvert Hall: Kentucky Author and Suffragist. Lexington, Kentucky: University Press of Kentucky. tt. 4–11. ISBN 0-8131-2470-0. Cyrchwyd 21 Mawrth 2010.
- ↑ 10.0 10.1 Niedermeier, Lynn (30 April 2009). "Biography". Eliza Calvert Hall. Bowling Green, KY: Western Kentucky University. Cyrchwyd 22 Mawrth 2010.