Theodore Roosevelt
Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 14 Medi 1901 a 3 Mawrth 1909 oedd Theodore Roosevelt, Jr. (27 Hydref 1858 – 6 Ionawr 1919), neu T.R. neu Teddy.
Theodore Roosevelt | |
---|---|
Llais | Theodore Roosevelt "The liberty of the people" speech.ogg |
Ganwyd | Theodore Roosevelt Jr. 27 Hydref 1858 Dinas Efrog Newydd, Efrog Newydd, Manhattan |
Bu farw | 6 Ionawr 1919 Sagamore Hill |
Man preswyl | Dinas Efrog Newydd, Oyster Bay, Washington, Sagamore Hill |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Addysg | Baglor yn y Celfyddydau |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | fforiwr, hanesydd, awdur ysgrifau, llenor, gwleidydd, hunangofiannydd, ranshwr, naturiaethydd, gwladweinydd, cadwriaethydd, adaregydd, dyddiadurwr |
Swydd | Arlywydd yr Unol Daleithiau, Is-Arlywydd yr Unol Daleithiau, Governor of New York, Assistant Secretary of the Navy, Governor-General of the Philippines, member of the New York State Assembly |
Adnabyddus am | African game trails : an account of the African wanderings of an American hunter-naturalist, Hunting trips of a ranchman, sketches of sport on the northern cattle plains;, The wilderness hunter; an account of the big game of the United States and its chase with horse, hound, and rifle; |
Taldra | 179 centimetr, 178 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol, Progressive Party |
Tad | Theodore Roosevelt Sr. |
Mam | Martha Bulloch Roosevelt |
Priod | Alice Hathaway Lee Roosevelt, Edith Roosevelt |
Plant | Alice Lee Roosevelt, Theodore Roosevelt Jr., Kermit Roosevelt, Ethel Roosevelt Derby, Archibald Roosevelt, Quentin Roosevelt |
Llinach | Roosevelt family |
Gwobr/au | Gwobr Heddwch Nobel, Medal anrhydedd, Medal Canmlwyddiant David Livingstone, Honorary Doctorate from the National Autonomous University of Mexico, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Humboldt, Berlin, Honorary doctorate from the University of Cairo |
llofnod | |
Mae'r tegan meddal ar ffurf arth, y tedi bêr, yn tarddu o enw Theodore Roosevelt ym 1902.[1]
Teulu a bywyd cynnar
golyguGaned Theodore Roosevelt Jr. ar 27 Hydref 1858 yn nhŷ rhif 28, East 20th Street, Dinas Efrog Newydd, yn fab i Theodore Roosevelt Sr. a Martha (Bulloch).[2] Disgynnai'r teulu Roosevelt o Klaes Martenszen van Rosenvelt, a ymfudodd i Amsterdam Newydd ym 1649.[3] Yr unig berthynas ar ochr ei dad nad oedd o dras Iseldiraidd oedd ei nain, a oedd yn Grynwraig o linach Gymreig, Seisnig, Gwyddelig, Sgot-Wyddelig, ac Almaenig. Ar ochr ei fam, disgynnai o fewnfudwyr Albanaidd a Hiwgenotiaid.[4]
Teulu cefnog a gwaraidd oedd y Roosevelts, ac ymdrechodd Theodore yr hynaf a Martha i ddarparu addysg dda a phrofiadau diwylliedig i siapio meddwl a chymeriad eu plant. Ym 1869–70, aethant ar "Daith Fawr" i Ewrop, gan ymweld â Phrydain, Gwlad Belg, yr Iseldiroedd, yr Almaen, Ffrainc, y Swistir, yr Eidal, ac Awstria. Yn Rhufain, cyfarfu Theodore â'r Pab Pïws IX.[5] Derbyniodd Theodore wersi gan diwtor preifat yn yr ieithoedd Ffrangeg, Almaeneg, a Lladin.[6] Er yr oedd yn ddisgybl deallus, bachgen gwan oedd Theodore, ac ar anogaeth ei dad fe gychwynnodd ar raglen o addysg gorfforol er mwyn cryfhau ei gorff a gwella ei iechyd. Siapiodd ei gyhyrau gyda phwysau yn Wood's Gymnasium, ac yn 13 oed dechreuodd hyfforddi paffio.[7][8] Yn Hydref 1872, dychwelodd y teulu i Ewrop, a theithiant hefyd i'r Aifft, Palesteina, Syria, Twrci, a Gwlad Groeg.[8] Treuliant ddeufis yng ngaeaf 1872–73 yn hwylio ar hyd Afon Nîl ar gwch dahabeah.[9] Penderfynodd y rhieni adael Theodore, ei frawd Elliott, a'i chwaer Corrinne yn Dresden am bum mis ym 1873 er mwyn astudio'r Almaeneg a'r Ffrangeg yn drylwyr, cyn iddynt ddychwelyd i'r Unol Daleithiau.[10]
Cafodd ei diwtora ar gyfer arholiadau mynediad Prifysgol Harvard gan Arthur Cutler, a'i dderbyn i Harvard ym 1876. Yn y cyfnod hwn, symudodd y teulu i gartref newydd yn rhif 6 West 57th Street, gyda campfa ar y llawr uchaf ac amgueddfa yn y nenlofft er difyrrwch Theodore.[11] Yn ystod ei flynyddoedd yn y brifysgol, bu Theodore yn ymwneud â nifer fawr o weithgareddau a diddordebau: cadwodd anifeiliaid yn ei ystafell a bu'n arfer dyrannu a thacsidermi; mynychodd sesiynau darllen barddoniaeth, gwersi dawnsio, perfformiadau prynhawn, partïon theatr a dawnsfeydd; parhaodd i baffio, ymgodymu, corfflunio, a hela yn ei amser rhydd; a gwirfoddolodd i fod yn athro ysgol Sul.[12] Ymaelododd â nifer o gymdeithasau, gan gynnwys yr Hasty Pudding Club, un o brif gymdeithasau myfyrwyr Harvard; y clwb chwist; Cymdeithas Byd Natur Harvard; Clwb Adaregol Nuttall; y Clwb Arianneg; a'r Institute of 1770, cymdeithas siarad a oedd yn gysylltiedig â'r Hasty Pudding.[13] Yn ei flwyddyn olaf, yn nhymor yr hydref 1878, cafodd ei dderbyn i'r Porcellian Club; wedi iddo or-yfed alcohol yn ystod ei ynydu, addawodd Roosevelt na fyddai byth eto yn meddwi, ac mae'n debyg iddo gadw'r adduned honno am weddill ei oes.[14]
Ffynonellau
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "The Hunter" (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-03-14. Cyrchwyd 8 Ionawr 2019.
- ↑ Edmund Morris, The Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 3.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), tt. 6–7.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 7.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), tt. 21–23.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 34.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 32.
- ↑ 8.0 8.1 Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 35.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 38.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), tt. 43–44.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 48.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 62
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), t. 86.
- ↑ Morris, Rise of Theodore Roosevelt (1979), tt. 77–79.
Llyfryddiaeth
golygu- Morris, Edmund. The Rise of Theodore Roosevelt (1979).
- Morris, Edmund. Colonel Roosevelt (2001).
- Morris, Edmund. Theodore Rex (2010).