Awdures o Loegr oedd Elizabeth Goudge (24 Ebrill 1900 - 1 Ebrill 1984) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel nofelydd, awdures storiau byrion ac awdur plant. Ei henw llawn oedd Elizabeth de Beauchamp Goudge. Enillodd Fedal Carnegie am lyfrau plant Saesneg, drwy wledydd Prydain ym 1946 ar gyfer The Little White Horse. Roedd yn awdur poblogaidd yn y DU a'r Unol Daleithiau o'r 1930au i'r 1970au. Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: The Little White Horse.

Elizabeth Goudge
FfugenwElizabeth Goudge Edit this on Wikidata
GanwydElizabeth de Beauchamp Goudge Edit this on Wikidata
24 Ebrill 1900 Edit this on Wikidata
Wells Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ebrill 1984 Edit this on Wikidata
Rotherfield Peppard Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Lloegr Lloegr
Galwedigaethysgrifennwr, nofelydd, awdur plant Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Little White Horse Edit this on Wikidata
Arddullnofel ramant, llenyddiaeth plant Edit this on Wikidata
Gwobr/auMedal Carnegie, Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol Edit this on Wikidata

Yn 1993 cafodd un o'i llyfrau ei lên-ladrata gan Indrani Aikath-Gyaltsen, pan gyhoeddodd ail-bobiad ohoni, gan hawlio adolygiadau arbennig o dda gan The New York Times a The Washington Post cyn i'r beirniaid llenyddol ddarganfod ei ffynhonnell - llyfr gan Elizabeth Goudge. Yn 2001 neu 2002, nododd J. K. Rowling mai The Little White Horse oedd un o'i hoff lyfrau ac un o'r ychydig sydd â dylanwad uniongyrchol ar gyfres Harry Potter.[1][2]

Magwraeth golygu

Fe'i ganed yn Tower House, yng nghanol dinas Wells ar 24 Ebrill 1900 a bu farw yn Rotherfield Peppard. Roedd ei thad, Henry Leighton Goudge, yn is-brifathro'r Coleg Diwinyddol yn Wells a'i mam yn enedigol o Guernsey. Symudodd y teulu i Ely pan gyflogwyd y tad yn brifathro'r Coleg Diwinyddol yno ac yna i Christ Church, Rhydychen pan benodwyd ef yn Athro Athrofa Diwinyddol y Brifysgol. Addysgwyd Elizabeth yn Ysgol Grassendale, Southbourne (1914–18), ac yn yr ysgol gelf yng Ngholeg Prifysgol Reading, ac yna yng Ngholeg Christ Church. Aeth ymlaen i ddysgu dylunio a chrefft yn Ely a Rhydychen.[3][4][5][6]


Roedd llyfr cyntaf Goudge, The Fairies 'Baby and Other Stories (1919), yn fethiant llwyr ac ni chyhoeddodd dim am rai blynyddoedd cyn iddi ysgrifennu ei nofel gyntaf, Island Magic (1934), a oedd yn llwyddiant ysgubol. Roedd yn seiliedig ar straeon Ynysoedd y Sianel, yr oedd wedi clywed, fin nos, gan ei mam, brodor o Guernsey. Roedd Elizabeth ei hun yn ymweld yn rheolaidd â Guernsey pan oedd yn blentyn, fel y dywed yn ei hunangofiant, The Joy of the Snow, a threuliodd sawl haf yno gyda'i thaid a'i nain a'i pherthnasau ar ochr ei mam.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Frenhinol Llenyddiaeth am rai blynyddoedd. [7][8]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Medal Carnegie (1946), Cymrawd o'r Gymdeithas Frenhinol a Llenyddol[9] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Conversations with J.K. Rowling, Linda Fraser, Scholastic, 2001, ISBN 978-0439314558. p. 24.
  2. "Harry Potter – Harry and me" Archifwyd 5 February 2012[Date mismatch] yn y Peiriant Wayback., Lindsay Fraser's interview with J. K. Rowling from The Scotsman, Tachwedd 2002. Adalwyd Mai 2013.
  3. Cyffredinol: http://data.bnf.fr/ark:/12148/cb11905497c. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
  4. Rhyw: http://news.bbc.co.uk/cbbcnews/hi/newsid_4690000/newsid_4690800/4690885.stm. http://www.independent.co.uk/extras/sunday-review/regulars/page-turner-one-goudge-good-two-goudges-great-886966.html. http://www.telegraph.co.uk/education/6127914/What-was-your-favourite-book-as-a-child.html.
  5. Dyddiad geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Elizabeth Goudge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Goudge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Goudge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth de Beauchamp Goudge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Goudge". ffeil awdurdod y BnF.
  6. Dyddiad marw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 27 Ebrill 2014 "Elizabeth Goudge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Goudge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Goudge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth de Beauchamp Goudge". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Goudge". ffeil awdurdod y BnF.
  7. Galwedigaeth: http://news.bbc.co.uk/cbbcnews/hi/newsid_4690000/newsid_4690800/4690885.stm.
  8. Anrhydeddau: https://carnegiegreenaway.org.uk/archive/carnegie-medal-winners/.
  9. https://carnegiegreenaway.org.uk/archive/carnegie-medal-winners/.