Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig

brenhines y Deyrnas Unedig, Canada, Awstralia, Seland Newydd a 12 gwledydd arall; Pennaeth y Gymanwlad
(Ailgyfeiriad oddi wrth Elizabeth II o'r Deyrnas Unedig)

Elisabeth II (Elizabeth Alexandra Mary) (ganwyd 21 Ebrill 1926), Teitl Swyddogol :Elizabeth yr Ail, Brenhines, trwy Ras Duw, Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd yr Iwerddon a'i Theyrnasoedd a'i Thiriogaethau eraill, Pennaeth y Gymanwlad, Amddiffynnydd y Ffydd.

Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig
Queen Elizabeth II in March 2015.jpg
GanwydElizabeth Alexandra Mary Windsor Edit this on Wikidata
21 Ebrill 1926 Edit this on Wikidata
Mayfair Edit this on Wikidata
Man preswylPalas Buckingham, Castell Windsor, Castell Balmoral, Tŷ Sandringham, Palas Holyrood Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Galwedigaethteyrn, casglwr celf Edit this on Wikidata
SwyddUchaf-Lywodraethwr Eglwys Loegr, Pennaeth y Gymanwlad, teyrn Seilón, teyrn Pacistan, teyrn De Affrica, teyrn Ghana, teyrn Nigeria, teyrn Sierra Leone, teyrn Trinidad a Thobago, teyrn Wganda, teyrn Cenia, teyrn Malta, teyrn y Gambia, teyrn Gaiana, teyrn Mawrisiws, teyrn Ffiji, teyrn Jamaica, teyrn Barbados, teyrn y Bahamas, teyrn Grenada, teyrn Papua Gini Newydd, teyrn Ynysoedd Solomon, teyrn Twfalw, teyrn Sant Lwsia, teyrn Saint Vincent a'r Grenadines, teyrn Belîs, teyrn Antigwa a Barbiwda, teyrn Saint Kitts a Nevis, teyrn Seland Newydd, teyrn Tanganica, teyrn y Deyrnas Gyfunol, teyrn Malawi, teyrn Awstralia, teyrn Canada, Lord of Mann, Dug Caerhirfryn, Cadbennaeth Lluoedd Arfog Canada Edit this on Wikidata
Taldra64 ±2 Modfedd Edit this on Wikidata
TadSiôr VI, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
MamElizabeth Bowes-Lyon Edit this on Wikidata
Priody Tywysog Philip, Dug Caeredin Edit this on Wikidata
Planty Tywysog Siarl, Tywysog Cymru, y Dywysoges Anne, Y Dywysoges Frenhinol, y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog, y Tywysog Edward, Iarll Wessex Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Windsor Edit this on Wikidata
Llofnod
Signature of Elizabeth II.png

Yn ogystal â bod yn Frenhines Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, mae Elisabeth II yn Bennaeth Gwladwriaeth yng Nghanada, Awstralia, Seland Newydd, Jamaica, Barbados, Bahamas, Grenada, Papua Gini Newydd, Ynysoedd Solomon, Twfalw, Sant Lwsia, Saint Vincent a'r Grenadines, Antigwa a Barbiwda, Belîs a Saint Kitts a Nevis, lle mae hi'n cael ei chynrychioli gan Lywodraethwr Cyffredinol. Mae hi hefyd yn Bennaeth y Gymanwlad.

TeitlauGolygu

'Brenhines Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Pennaeth y Gymanwlad ac Uchaf-Lywodraethwr Eglwys Loegr' er marwolaeth ei thad Siôr VI ym 1952.

Cyfeirir ati yn arferol fel Ei Mawrhydi neu y Frenhines neu'r ddwy, ond mae gweriniaethwyr ac eraill ym Mhrydain nad ydynt yn cefnogi'r frenhiniaeth yn cyfeirio ati weithiau fel "Mrs Windsor." Yng Nghymru fe'i gelwir weithiau yn "yr hen Sidanes" ('Sidanes' oedd y llysenw Cymraeg, digon parchus, ar y frenhines Elisabeth I).

Bywyd CynnarGolygu

Elisabeth yw merch hynaf Y Tywysog Albert, Dug Efrog (yn hwyrach, Brenin Siôr VI) a'i wraig Elisabeth Bowes-Lyon. Ganwyd y Dywysoges Elisabeth ar y 21 Ebrill 1926 yn 17 Stryd Bruton, Mayfair, Llundain. Gafodd ei bedyddio yng ngapel preifat ym Mhalas Buckingham gan Cosmo Lang, Archesgob Efrog, ar 29 Mai. Ei rhieni bedydd oedd ei nain a'i thaid, Siôr V a Brenhines Mari; ei modrybion y Dywysoges Mari a Lady Elphinstone; y Dywysog Arthur, Dug Connaught a Strathearn; a'i nain (ar yr ochr ei fam) Cecilia Bowes-Lyon, Duges Strathmore a Kinghorne. Cafodd Elisabeth ei henw gan ei mam a'r Frenhines Alexandra a Brenhines Mari. Lilibet oedd Elisabeth yn cael ei galw ymysg ei theulu.

Fe fuodd Elisabeth yn agos i'w thaid, Siôr V, ac fe fuodd ei phresenoldeb yn help mawr iddo wella o'i salwch yn 1929. Ei chwaer oedd y Dywysoges Margaret a anwyd yn 1930. Cafodd y ddwy ohonyn nhw eu haddysg gartref gan Marion Crawford (neu "Crawfie"). Yn hwyrach, cyhoeddodd Marion Crawford fywgraffiad o fywydau'r chwiorydd yn y llyfr The Little Princesses. Roedd y llyfr yn sgandal ac nid oedd y teulu yn hapus. Mae'r llyfr yn fanwl ac yn disgrifio hoffter Elisabeth at geffylau a chŵn ac yn disgrifio ymhellach fod gan Elisabeth agwedd gyfrifol. Dywedodd llawer o bobol eraill yr un peth. Disgrifiodd Winston Churchill y Dywsoges Elisabeth fel "cymeriad. Mae mwy o awdurdod amdani." Roedd ei chyfnither Margaret Rhodes yn ei disgrifio hi fel "merch hapus, synhwyrol sy'n ymddwyn yn dda".

Fel wyres y Brenin trwy ei thad, fe fuodd Elisabeth yn Dywysoges Brydeinig. Cafodd ei galw yn gyfreithlon fel Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Elisabeth o Efrog. Fe fuodd yn drydydd yn llinell olyniaeth i'r goron, tu ôl ei ewythr Edward, Tywysog Cymru, a'i thad. Pan y ganwyd y Dywysoges Elisabeth, bu gan y cyfryngau ddiddordeb mawr ond nid oes unrhyw rheswm gredu y byddai'r Dywysoges Elisabeth yn Frenhines yn y dyfodol. Yn 1936, bu'r Brenin Siôr V farw. Yn hwyrach yn yr un flwyddyn ymddiswyddodd y Brenin newydd fel Brenin ac aeth Elisabeth yn gyntaf yn llinell olyniaeth i'r goron. Newidwyd teitl y Dywysoges i "Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Elisabeth".

Yn Etifedd TebygolGolygu

Ail Ryfel BydGolygu

Er y symudwyd llawer o blant fel ifaciwîs, er mwyn dianc o Lundain a dinasoedd eraill a oedd yn cael eu bomio gan y Natsïaid, gwrthododd y fam Elisabeth yr awgrym am symud y teulu i Ganada. Yn ystod y rhyfel arosodd y teulu mewn Castell Windsor.

Yn 1940 gwnaeth y dywysoges Elisabeth, yn 14 oed, ei darllediad radio cyntaf, yn cyfeirio at blant eraill.

Priodas a TheuluGolygu

Priododd hi Philip Mountbatten ar 20 Tachwedd 1947 yn Abaty Westminster.

TeyrnasiadGolygu

Esgyniad a ChoroniadGolygu

Datblygiad Parhaol y GymanwladGolygu

DadwladychiadGolygu

Jiwbilî ArianGolygu

Jiwbilî AurGolygu

PlantGolygu

Dolenni allanolGolygu

Rhagflaenydd:
Siôr VI
Brenhines y Deyrnas Unedig
6 Chwefror 1952
Olynydd:
delliad