Wicipedia:Gwahaniaethu
Rhaid cofio fod tri ffactor pwysig i'w hystyried wrth geisio gwahaniaethu rhwng termau cyffredin:
- 1. Mae teitl pob erthygl yn unigryw, ac mae hyn yn gwahaniaethu rhwng ystyron gwahanol. Gyda lleoedd, yr arferiad yw ychwanegu enw'r sir neu'r ardal ar ôl y gair e.e. "Henllan, Sir Ddinbych", "Henllan, Sir Gaerfyrddin" a "Henllan, Ceredigion". Sylwer mai dull arferol wici yw defnyddio coma gyda lleoedd; gyda phethau eraill defnyddir cromfachau e.e. "Gwyn Thomas (bardd)" a "Gwyn Thomas (nofelydd)".
- 2. Dylid cyfeirio dolennau'n uniongyrchol i'r erthygl gywir e.e. byddai golygydd erthyglau gwyddonol yn nodi pa "Fawrth" mae'n ei olygu drwy newid y ddolen "Mawrth" (sy'n mynd i dudalen wahaniaethu) i "Mawrth (planed)".
- 3. Sicrhau fod y darllenydd yn darganfod ei wybodaeth ar amrantiad drwy benderfynu a oes angen Tudalen Wahaniaethu, neu beidio.
I wneud y penderfyniad hwn dylid gofyn a oes un o'r termau'n gryfach ac yn fwy poblogaidd na'r gweddill? Ceir sawl ystyr i "Mawrth" sydd cyn gryfed a'i gilydd (y Duw, y diwrnod, y blaned...) ac felly mae Chwilio gyda'r gair "Mawrth" yn eich harwain i'r Dudalen Wahaniaethu.
Pan ceir un prif ystyr (ac fel arfer ceir llawer o gysylltiadau i Wicipediau mewn ieithoedd eraill yn bodoli) e.e. yr erthygl ar Lundain, yna dylid defnyddio Dull 2 gan ei bod yn gwneud synwyr fod y rhan fwyaf o bobl yn chwilio am y Llundain yn Lloegr ac nid yr un yn Cribati. Dylai'r ddolen uniongyrchol fynd i'r dref neu'r pentref mwyaf o ran poblogaeth a nodi ar frig y dudalen fod ystyron eraill hefyd yn bodoli.
- Dull 1: mae "Chwilio"'r term yn eich hebrwng yn syth at y dudalen gwahaniaethu (e.e. Conwy (gwahaniaethu)), neu
- Dull 2: fe ewch at erthygl sy'n defnyddio'r term a dolen ar ben y dudalen honno yn eich hebrwng at y dudalen wahaniaethu (e.e. Tsieina). N.B. Ar en defnyddir y term primary topic am y math yma o erthygl a'r frawddeg fer mewn italig, sy'n eich cyfeirio at y dudalen wahaniaethu yn hatnote.
Ni ddylid symud tudalen sy'n fwy na 4 paragraff heb ymgynghori â'r gymuned.