Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig

teyrn y Deyrnas Unedig o 1952 hyd 2022

Roedd Elisabeth II (Elizabeth Alexandra Mary; 21 Ebrill 19268 Medi 2022) yn Frenhines Y Deyrnas Unedig a teyrnasoedd y Gymanwlad o 6 Chwefror 1952 hyd ei marwolaeth. Bu'n teyrnasu dros 32 gwladwriaeth sofran yn ystod ei bywyd, gan wasanaethu fel brenhines 15 ohonynt ar amser ei marwolaeth. Ei theyrnasiad o 70 mlynedd a 214 diwrnod oedd yr hiraf o unrhyw frenin neu frenhines y Deyrnas Unedig neuDeyrnas Lloegr.[1] Roedd hi ymhlith y breninesau a'r brenhinoedd hiraf eu teyrnasiad yn y byd, a'r ail hiraf yn hanes gwledydd sofran y tu ôl i Louis XIV, brenin Ffrainc.

Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig
Ganwyd21 Ebrill 1926 Edit this on Wikidata
Mayfair Edit this on Wikidata
Bu farw8 Medi 2022 Edit this on Wikidata
o heneidd-dra Edit this on Wikidata
Castell Balmoral Edit this on Wikidata
SwyddBrenhines y gwledydd canlynol:
TadSiôr VI, brenin y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
MamElizabeth Bowes-Lyon Edit this on Wikidata
Priody Tywysog Philip, Dug Caeredin Edit this on Wikidata
PlantSiarl III, Anne, y Dywysoges Reiol, y Tywysog Andrew, Dug Caerefrog, y Tywysog Edward, Dug Caeredin Edit this on Wikidata
LlinachTŷ Windsor Edit this on Wikidata
llofnod

Ei theitl llawn oedd Elizabeth yr Ail, Brenhines, trwy Ras Duw, Deyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd yr Iwerddon a'i Theyrnasoedd a'i Thiriogaethau eraill, Pennaeth y Gymanwlad, Amddiffynnydd y Ffydd. Yn ogystal â bod yn Frenhines Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Elisabeth II oedd Pennaeth Gwladwriaethau Nghanada, Awstralia, Seland Newydd, Jamaica, Barbados, Bahamas, Grenada, Papua Gini Newydd, Ynysoedd Solomon, Twfalw, Sant Lwsia, Saint Vincent a'r Grenadines, Antigwa a Barbiwda, Belîs a Sant Kitts-Nevis, lle roedd hi'n cael ei chynrychioli gan Lywodraethwr Cyffredinol. Roedd hefyd yn Bennaeth y Gymanwlad.

Teitlau golygu

'Brenhines Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon, Pennaeth y Gymanwlad ac Uchaf-Lywodraethwr Eglwys Loegr' er marwolaeth ei thad Siôr VI ym 1952.

Cyfeiriwyd ati yn arferol fel Ei Mawrhydi neu y Frenhines neu'r ddwy, ond mae gweriniaethwyr ac eraill ym Mhrydain nad ydynt yn cefnogi'r frenhiniaeth yn cyfeirio ati weithiau fel "Mrs Windsor." Yng Nghymru fe'i gelwid weithiau yn "yr hen Sidanes" ('Sidanes' oedd y llysenw Cymraeg, digon parchus, ar y frenhines Elisabeth I).

Bywyd cynnar golygu

Elisabeth oedd merch hynaf y Tywysog Albert, Dug Efrog (yn hwyrach, Brenin Siôr VI) a'i wraig Elisabeth Bowes-Lyon. Ganwyd y Dywysoges Elisabeth ar y 21 Ebrill 1926 yn 17 Stryd Bruton, Mayfair, Llundain. Gafodd ei bedyddio mewn capel preifat ym Mhalas Buckingham gan Cosmo Lang, Archesgob Efrog, ar 29 Mai. Ei rhieni bedydd oedd ei nain a'i thaid, Siôr V a Brenhines Mari; ei modrybion y Dywysoges Mari a Lady Elphinstone; y Dywysog Arthur, Dug Connaught a Strathearn; a'i nain (ar yr ochr ei fam) Cecilia Bowes-Lyon, Duges Strathmore a Kinghorne. Cafodd Elisabeth ei henw gan ei mam a'r Frenhines Alexandra a Brenhines Mari. Lilibet oedd Elisabeth yn cael ei galw ymysg ei theulu.

Fe fuodd Elisabeth yn agos i'w thaid, Siôr V, ac fe fuodd ei phresenoldeb yn help mawr iddo wella o'i salwch yn 1929. Ei chwaer oedd y Dywysoges Margaret a anwyd yn 1930. Cafodd y ddwy ohonyn nhw eu haddysg gartref gan Marion Crawford (neu "Crawfie"). Yn hwyrach, cyhoeddodd Marion Crawford fywgraffiad o fywydau'r chwiorydd yn y llyfr The Little Princesses. Roedd y llyfr yn sgandal ac nid oedd y teulu yn hapus. Mae'r llyfr yn fanwl ac yn disgrifio hoffter Elisabeth at geffylau a chŵn ac yn disgrifio ymhellach fod gan Elisabeth agwedd gyfrifol. Dywedodd llawer o bobol eraill yr un peth. Disgrifiodd Winston Churchill y Dywsoges Elisabeth fel "cymeriad. Mae mwy o awdurdod amdani." Roedd ei chyfnither Margaret Rhodes yn ei disgrifio hi fel "merch hapus, synhwyrol sy'n ymddwyn yn dda".

Fel wyres y Brenin trwy ei thad, fe fuodd Elisabeth yn Dywysoges Brydeinig. Cafodd ei galw yn gyfreithlon fel Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Elisabeth o Efrog. Fe fuodd yn drydydd yn llinell olyniaeth i'r goron, tu ôl ei ewythr Edward, Tywysog Cymru, a'i thad. Pan y ganwyd y Dywysoges Elisabeth, bu gan y cyfryngau ddiddordeb mawr ond nid oes unrhyw rheswm gredu y byddai'r Dywysoges Elisabeth yn Frenhines yn y dyfodol. Yn 1936, bu'r Brenin Siôr V farw. Yn hwyrach yn yr un flwyddyn ymddiswyddodd y Brenin newydd fel Brenin ac aeth Elisabeth yn gyntaf yn llinell olyniaeth i'r goron. Newidiwyd teitl y Dywysoges i "Ei Huchelder Brenhinol Y Dywysoges Elisabeth".

Yn Etifedd Tebygol golygu

Ail Ryfel Byd golygu

Er y symudwyd llawer o blant fel faciwîs, er mwyn dianc o Lundain a dinasoedd eraill a oedd yn cael eu bomio gan y Natsïaid, gwrthododd y fam Elisabeth yr awgrym am symud y teulu i Ganada. Yn ystod y rhyfel arhosodd y teulu yng Nghastell Windsor.

Yn 1940 gwnaeth y dywysoges Elisabeth, yn 14 oed, ei darllediad radio cyntaf, yn cyfeirio at blant eraill.

Priodas a Theulu golygu

Fe briododd Philip Mountbatten ar 20 Tachwedd 1947 yn Abaty Westminster.

Plant golygu

Marwolaeth golygu

Bu farw Elisabeth yng Nghastell Balmoral yn yr Alban, yn 96 oed. Bu ei hangladd yn Abaty San Steffan ar 19 Medi 2022. Claddwyd hi yng Nghapel San Siôr, Windsor.[2]

Cyfeiriadau golygu

  1. Brenhines Elizabeth II (1926-2022) , Golwg360, 8 Medi 2022.
  2. "The State Funeral and Committal Service for Her Majesty The Queen". The Royal Family (yn Saesneg). 15 Medi 2022. Cyrchwyd 21 Medi 2022.

Dolenni allanol golygu

Rhagflaenydd:
Siôr VI
Brenhines y Deyrnas Unedig
6 Chwefror 19528 Medi 2022
Olynydd:
Siarl III