Elizabeth Robins
Actores Americanaidd oedd Elizabeth Robins (6 Awst 1862 - 8 Mai 1952) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel awdur ac am ymgyrch fel swffragét er mwyn sicrhau y bleidlais i fenywod. Fel awdur, defnyddiai'r llysenw C. E. Raimond, er mwyn i'w gwaith gael ei gyhoeddi.
Elizabeth Robins | |
---|---|
Ffugenw | C. E. Raimond |
Ganwyd | 6 Awst 1862 Louisville |
Bu farw | 8 Mai 1952 Brighton |
Man preswyl | Lloegr |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor, llenor, swffragét, llyfrgellydd |
Partner | Octavia Wilberforce |
Fe'i ganed yn Louisville, Kentucky a bu farw yn Brighton. [1][2][3][4]
Magwraeth
golyguElizabeth oedd plentyn cyntaf Charles Robins a Hannah Crow, a bu'r teulu'n byw yn Louisville, Kentucky. Ar ôl anawsterau ariannol, gadawodd ei thad am Colorado, gan adael y plant dan ofal Hannah.[5] Roedd Charles Robins yn ddilynwr y Cymro Robert Owen ac roedd ganddo farn wleidyddol flaengar.[6]
Pan gymerwyd Hannah i ysbyty meddwl, anfonwyd Elizabeth a'r plant eraill i fyw gyda'i mam-gu yn Zanesville, Ohio, lle cafodd ei haddysgu, a lle darllenodd The Complete Works o William Shakespeare; roedd ei mamgu'n gefnogol iawn iddi ddilyn gyrfa fel actores yn Ninas Efrog Newydd.
Fel brocer yswiriant, teithiodd ei thad lawer yn ystod ei phlentyndod ac yn haf 1880, aeth Robins gydag ef i wersylloedd a threfi mwyngloddio a llwyddodd i fynd i'r theatr yn Efrog Newydd a Washington. Oherwydd ei gallu, roedd Elizabeth yn un o ffefrynnau ei thad. Roedd am iddi fynd i Goleg Vassar i astudio meddygaeth. Yn 14 oed, actiodd Robins yn ei drama broffesiynol gyntaf (Hamlet) a chadarnhawyd ei dymuniad i ddilyn gyrfa actio. O 1880 i 1888, gweithiai fel actores yn America.
Priodi a symud
golyguAr ôl cyfnod yn actio gyda Theatr Edwin Booth, yn 1883 ymunodd gyda'r Boston Museum Stock Company lle cyfarfu â George Parks, a oedd yn un o'r criw. Priododd y ddau yn 1885.
Er bod ei gŵr yn cael trafferth cael rhannau actio, roedd galw mawr amdani hi, a theithiai drwy gydol ei phriodas. Ceisiodd ei gŵr ei hargymell i adael y llwyfan, ond ni thyciodd dim: roedd wrth ei bodd. Lladdodd George ei hun yn 1887 drwy neidio oddi ar bont i Afon Charles, wedi iddo ysgrifennu nodyn hunanladdiad, "Ni safaf yn eich golau, mwyach." Ar 3 Medi 1888, symudodd Robins i Lundain. Roedd hyn yn gychwyn pennod newydd iddi, ar ôl ei thrasiedi bersonol yn America."[7]
Llundain
golyguMewn cyfarfod cymdeithasol yn ystod ei hwythnos gyntaf yn Lloegr, cyfarfu â'r bardd Gwyddelig Oscar Wilde. Trwy gydol ei gyrfa, byddai Wilde yn dod i'w gweld yn actio ac yn rhoi beirniadaeth deg iddi o'i pherfformiad, fel yr adeg wedi iddi berfformio yn The Real Little Lord Fauntleroy yn 1889. Sylw Wilde oedd: "yn bendant, rydych wedi sefydlu fel actores o'r radd flaenaf, ac wedi sicrhau eich dyfodol ar y llwyfan."
Gweithiau
golyguFel "C. E. Raimond", ysgrifennodd:
- George Mandeville's Husband, 1894
- The New Moon, 1895
- Below the Salt, 1896
- The Open Question, 1898
O dan ei henw hi ei hun:
- The Alaska-Klondike diary of Elizabeth Robins, 1900
- The magnetic north, 1904
- A Dark Lantern, 1905
- The convert, 1907
- Votes for Women!, 1907
- Come and Find Me, 1908, a ddilynnodd The magnetic north
- Camilla, 1918
- The Messenger, 1920
- Ancilla's share : an indictment of sex antagonism, 1924
- The Florentine Frame, 1909
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o'r Undeb Cenedlaethol dros yr Hawl i Fenywod Bleidleisio, Undeb Cymdeithasol a Gwleidyddol y Merched am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau
golygu
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. https://en.wikipedia.org/wiki/Elizabeth_Robins.
- ↑ Rhyw: Ffeil Awdurdodi Rhyngwladol. dyddiad cyrchiad: 4 Tachwedd 2018. ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Dyddiad geni: "Elizabeth Robins". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Dyddiad marw: "Elizabeth Robins". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Elizabeth Robins Parkes". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Laura C. Rudolph. "Robins, Elizabeth". Missing or empty
|url=
(help) - ↑ Sowon S Park, 'Elizabeth Robins', Literary Encyclopedia. https://www.litencyc.com/php/speople.php?rec=true&UID=3817
- ↑ Angela V. John, Elizabeth Robins: Staging a Life, 1862–1952