Robert Owen

Sosialydd Utopaidd
Am bobl eraill o'r un enw, gweler Robert Owen (gwahaniaethu).

Arloesodd Robert Owen (14 Mai 177117 Tachwedd 1858) y cysyniad o gymuned gyd-weithredol. Roedd yn sosialydd Iwtopiaidd ac yn awdur.

Robert Owen
GanwydRobert Marcus Owen Edit this on Wikidata
14 Mai 1771 Edit this on Wikidata
y Drenewydd Edit this on Wikidata
Bu farw17 Tachwedd 1858 Edit this on Wikidata
y Drenewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • National Art School Edit this on Wikidata
Galwedigaethentrepreneur, economegydd, dyngarwr, gwleidydd, athronydd, brethynnwr, sosialydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
PriodAnne Caroline Owen Edit this on Wikidata
PlantRobert Dale Owen, Richard Owen, David Dale Owen Edit this on Wikidata
PerthnasauConstance Faunt Le Roy Runcie Edit this on Wikidata
llofnod
Robert Owen
Robert Owen yn 1845. Portread gan John Cranch.

Gyrfa golygu

Ganwyd Robert Owen yn y Drenewydd, Powys, yn 1771. Priododd Caroline Dale, merch David Dale a oedd yn berchen ar felinau gwlân yn New Lanark. Prynodd felinau nyddu gwlân eraill yno yn 1799 ac aeth ati i ddiwygio cyfleusterau gwaith y gweithwyr gan leihau eu horiau a darparu gofal meddygol am ddim iddynt. Sefydlodd ysgol hefyd i blant y gweithwyr. Tyfodd y busnes dros y degawdau nesaf nes iddo fod y mwyaf o'i fath yng ngwledydd Prydain. Roedd yn credu'n angerddol ym mhwysigrwydd amgylchedd ac amgylchiadau da i’r gweithwyr, yn wahanol i nifer fawr o berchnogion ffatrioedd eraill.

Galwodd yr adeiladu cymdeithasol hwn yn 'sosialaeth' a chafodd gryn dderbyniad i'w syniadau nes iddo ddechrau beirniadu crefydd a system grefydd y dydd. Gadawodd wledydd Prydain am Indiana yng Ngogledd America yn 1824 gan fuddsoddi ei arian mewn stâd fawr a chychwyn cwmni cydweithredol 'New Harmony'. Erbyn 1827 roedd wedi dychwelyd i wledydd Prydain.

Bu'n ffigwr poblogaidd yn y mudiad undebaeth lafur (1829 - 1835) ac ymwelodd â Pharis yn ystod chwyldro 1848. Ysgrifennodd lyfrau ar hyn, gan gynnwys Essays on the Principle of the Formation of Human Character a A new View of Society.

Llencyndod golygu

Ef oedd y 6ed bachgen allan o 7 o blant. Roedd gan ei dad fusnes bychan fel cyfrwywr. Hanai ei fam o deulu ffarmio llewyrchus. Daeth ei addysg i ben pan oedd yn 10 oed. Ar ôl gweithio mewn siop am ychydig symudodd i Fanceinion.

Diwedd y daith golygu

Yn 1858 dychwelodd i'r Drenewydd lle bu farw a chodwyd cofeb iddo yn y dref yn 1902 ym mynwent Eglwys y Santes Fair lle'i claddwyd. Codwyd cerflun iddo yn y dref yn 1956 ac yn 1983 agorwyd amgueddfa goffa iddo.

Llyfryddiaeth golygu

Gwaith Robert Owen golygu

  • A New View of Society
  • Book of the New Moral World
  • Revolution in the Mind and Practice of the Human Race
  • A Report on the County of Lanark

Astudiaethau golygu

  • G. D. H. Cole, Robert Owen (1925)
  • F. Podmore, Robert Owen: a biography (1906)

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: