Elizabeth Villiers
Llysiwr Seisnig o deulu Villiers oedd Elizabeth Hamilton, Iarlles Orkney (1657 – 19 Ebrill 1733 (ganwyd Elizabeth Villiers) a meistres honedig William III a II, brenin Lloegr a'r Alban, o 1680 hyd 1695. Gwraig-yn-aros oedd hi i wraig William, y Frenhines Mari II.
Elizabeth Villiers | |
---|---|
Ganwyd | 1657 y Deyrnas Unedig |
Bu farw | 19 Ebrill 1733 Llundain |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | boneddiges breswyl |
Tad | Edward Villiers |
Mam | Frances Howard |
Priod | George Hamilton, iarll 1af yr Orkney |
Partner | Wiliam III & II |
Plant | Anne O'Brien, ail iarlles yr Orkney, Frances Lumley-Saunderson, iarlles o Scarbrough, Henrietta Hamilton |
Cafodd Elizabeth Villiers ei geni i'r Syr Edward Villiers a'i wraig, Arglwyddes Frances Howard, merch ieuengaf Theophilus Howard, 2il Iarll Suffolk, ac Elizabeth Hume. Roedd Frances Villiers yn lywodraethwr Mari II a'i chwaer Anne.
Ar 25 Tachwedd 1695, ar ôl marwolaeth Mari, priododd Elisabeth â'r Arglwydd George Hamilton, pumed mab 3ydd Dug Hamilton. Ychydig wythnosau'n ddiweddarach, ar 3 Ionawr, cafodd ei anrhydeddu â'r teitlau Iarll Orkney, Is-iarll Kirkwall, a Baron Dechmont. Gwasanaethodd Elizabeth, yn awr Iarlles Orkney, fuddiannau ei phriod gyda medrusrwydd mawr. [1]
Gan George Hamilton, Iarll 1af Orkney, bu gan Elizabeth Villiers dair merch, ac etifeddodd yr hynaf ohonynt stad a theitl ei gŵr: [2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Herman, Eleanor (2005). Sex with Kings: 500 Years of Adultery, Power, Rivalry, and Revenge. The Business of Life: William Morrow Paperbacks. tt. 219. ISBN 0-06-058544-7.
- ↑ Lady Henrietta Douglas, thepeerage.com