Ellis Evans (awdur)

gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur (1786-1864)

Awdur a gweinidog gyda'r Bedyddwyr o Gymru oedd Ellis Evans (22 Mehefin 178628 Mawrth 1864).[1]

Ellis Evans
Ganwyd22 Mehefin 1786 Edit this on Wikidata
Llanuwchllyn Edit this on Wikidata
Bu farw28 Mawrth 1864 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl, llenor Edit this on Wikidata

Cefndir

golygu

Ganwyd Ellis Evans ar 22 Mehefin, 1786, ym Mhig-y-swch, Meirionnydd. Roedd e'n fab i Evan Ellis, trwsiwr ffyrdd. Yn 1806 ymunodd ag eglwys y Bedyddwyr yn Llanuwchllyn, ag yna dechreeodd bregethu yn 1809. Yn 1811 aeth i athrofa'r Fenni ar ôl bod yn ysgol Jesse Jones, Fforddlas. Ymadawodd yn 1813 i fod yn bregethwr ac ysglofeistr teithiol. Priododd Mary Jones yn 1814, yn Fforddlas. Yn 1815 ordeiniwyd ef a'i sefydlu'n fugail ar eglwysi Llannefydd, Llansannan a Llangernyw. Nid oedd e'n bregethwr poblogaidd gan na ddoniwyd ef yn helaeth fel areithydd. Eithr yr oedd yn fawr ei fri fel diwinydd ac esboniwr ysgolheigaidd. Bu farw 28 Mawrth 1864.

Ffynonellau

golygu
  • Cofiant y diweddar Barch. E. Evans, D.D., gweinidog i'r Bedyddwyr yn y Cefn Mawr (1866); gan R. Ellis
  • Greal Llangollen, 1864
  • Eminent Welshmen: a short biographical dictionary of Welshmen... from the earliest times to the present (1908)
  • Geirlyfr Bywgraffiadol o Enwogion Cymru (1870)
  • Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru
  • Hanes y Bedyddwyr yn Nghymru (1893–1907), iii, 382; iv, 1, 45
  • Y Tyst Apostolaidd, 1847
  • The Baptist Magazine (1809–1904), 1816
  • Seren Gomer, Ionawr 1949

Cyfeiriadau

golygu
  1. "EVANS, ELLIS (1786 - 1864), gweinidog gyda'r Bedyddwyr ac awdur | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2019-01-26.