Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru

Mae Geiriadur Bywgraffyddol o Enwogion Cymru: o'r oesoedd boreuaf hyd yn awr, yn offeiriaid, bregethwyr, beirdd, hynafiaethwyr, gwyddonegwyr, llenorion, cerddorion yn nghyd a phob un o enwogrwydd mewn ystyr wladol neu grefyddol yn gasgliad bywgraffyddol gan Josiah Thomas Jones (23 Medi 1799 - 26 Ionawr 1873).[1]. Cyhoeddwyd y gwaith mewn dwy ran, y gyntaf ym 1867 a'r ail ym 1870. Argraffwyd a chyhoeddwyd y cyfrolau gan J. T. Jones a'i fab yn Swyddfa yr Aberdare Times, Aberdâr (argraffwasg oedd yn eiddo i'r awdur).

Wynebddalen cyfrol I Enwogion Cymru gan Josiah Thomas Jones.

Mae copiau digidol o'r llyfrau ar gael i'w darllen yn di dal ar wefan Internet Archive.[2]

Mae'r llyfrau yn cynnwys dros 7,000 o erthyglau bywgraffiadol mewn 1,358 o dudalennau. Mae maint a manylder yr erthyglau yn amrywiol. Mae'r erthygl am Dewi Wyn yn cynnwys tua 3,500 o eiriau o hyd ac yn ymestyn dros 4 tudalen, mae'n cael ei olynu gan un i'r bardd Difwg sy'n cynnwys 26 air mewn dwy frawddeg: DIFWG, bardd a flodeuodd yn y ddegfed ganrif. Yr oedd yn fardd i Morgan Mwynfawr, brenin Morganwg. Nid oes dim o'i waith ar gael.

Mae'r bywgraffiadau yn cael eu cyflwyno mewn arddull sydd dim ond yn lled trefn yr wyddor. Er bod pob erthygl i bobl a'r cyfenw Edwards er enghraifft, wedi casglu at ei gilydd daw hanes Thomas Edwards, gweinidog y Bedyddwyr yn Ystradyfodwg o flaen hanes John Edwards, gweinidog Troed-y-rhiw; hanes Y Parch John Jones, Tremadog yw erthygl olaf y gyfrol gyntaf [3] ond hanes Y Parch Benjamin Jones, Pwllheli sy'n agor yr ail gyfrol [4].

Mae gan yr ail gyfrol dau atodiad. Mae'r gyntaf yn cynnwys bywgraffiadau am bobl yr hepgorwyd o brif gorff y ddwy gyfrol a hefyd pobl a bu farw rhwng cyhoeddi'r gyfrol gyntaf a'r ail gyfrol. Mae'r ail atodiad yn trafod Saeson bu'n gymwynasgar i genedl y Cymry (tri ohonynt). Yr Esgob Thomas Burgess, Yr Esgob Robert Ferrar a Thomas Gouge offeiriad Eglwys Loegr yn y 17 ganrif a fu ar deithiau efengylu trwy Gymru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Y Bywgraffiadur Ar-Lein
  2. "Internet Archive: Digital Library of Free & Borrowable Books, Movies, Music & Wayback Machine". archive.org. Cyrchwyd 2019-01-05.
  3. Jones, Josiah Thomas (1867). Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru: o'r oesoedd boreuaf hyd yn awr, yn ... Y Gyfrol Gyntaf ar Internet Archive: Argraffwyd a Chyhoeddwyd gan J.T. Jones a'i Fab, Aberdâr.
  4. Jones, Josiah Thomas (1870). Geiriadur bywgraffyddol o enwogion cymru: o'r oesoedd boreuaf hyd yn awr, yn ... yr ail gyfrol ar Internet archive: J T Jones a'i fab, Aberdâr.