Stondin i gludo arch neu gasged arni yw elor a ddefnyddir fel arfer i gludo corff person i'r bedd neu er mwyn arddangos y corff yn ystod seremoni angladd.[1]

Elor olwynog
Elor bren yng Nghapel y Carw Gwyn, Llangar

Yn ôl arferion angladdol Cristnogol, dodir yr elor yng nghorff (nave) yr eglwys gyda chanhwyllau o'i phobtu, ac fe erys yno yn ystod yr angladd. Yn aml, mewn hen eglwysi, cedwir yr elor ar wal yr eglwys.

Yn draddodiadol, ffrâm wastad o bren ydoedd, ond weithiau o ddeunyddiau eraill. Gynt, roedd yr elor yn aml yn ford o bren y dodid y meirw arni gydag amdo amdanynt. Bellach, anaml y dygir y corff ar elor heb ei roi mewn arch neu gasged yn gyntaf, er nad yw'n anghyffredin cadw'r arch ar ei hagor.

Cyfeiriadau golygu

  1.  elor. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 7 Medi 2014.