Llangar

pentref yn Sir Ddinbych (Sir Feirionnydd cyn 1974)

Plwyf eglwysig ym mro hanesyddol Edeirnion, gogledd Cymru, yw Llangar. Mae'n gorwedd yn Sir Ddinbych heddiw ond bu gynt yn rhan o Sir Feirionnydd. Prif bentref y plwyf yw Cynwyd.[1] Tair nant a bryn yw ei ffiniau: Bryn Bu'r Gelyn yw'r bryn, a gorwedd hwnnw y tu ôl i blasty bychan Bryntirion, ger Corwen; y dair nant yw: Nant Croes y Wernen (i'r De), Nant Rhydyglafes (i gyfeiriad y Bala) a Nant Rhyd-y-Saeson yw'r ffin gogleddol (ger Four Crosses a Glanrafon.[2]

Llangar
Llangar Church. - geograph.org.uk - 559314.jpg
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirSir Ddinbych Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.971°N 3.397°W Edit this on Wikidata
Cod OSSJ0642 Edit this on Wikidata
Cod postLL21 Edit this on Wikidata

Cofnodir y plwyf yn yr arolwg o Feirionnydd a wnaed ar ran Coron Lloegr yn 1292-3 fel un o chwech yng nghwmwd Edeirnion.

Gorwedd y plwyf yng nghanol Edeirnion, rhwng plwyfi Llandrillo a Chorwen, gan godi i lethrau'r Berwyn i'r dwyrain. Am y rhan fwyaf o'r Oesoedd Canol bu'n rhan o Bowys.

Canolfan crefyddol y plwyf am ganrifoedd oedd y llan lle ceir Eglwys Llangar heddiw, tua hanner ffordd rhwng Cynwyd a Chorwen yn Nyffryn Edeirnion, ar lan Afon Dyfrdwy. Bu'r llenor Edward Samuel, gŵr o Benmorfa yn Eifionydd yn wreiddiol, yn berson yno o 1721 tan 1748; aeth un o'i wyrion, David Samwell (Dafydd Ddu Feddyg), yn feddyg ar fordaith y Capten James Cook yn 1776-78. Mae'n bosib mai llygriad o hen enw'r eglwys (Llan-y-carw-gwyn) yw tarddiad yr enw Llangar.[3]

Englynion i LangarGolygu

Meysydd a dolydd sydd deg - hoff lesawl
     A phalasau pur, gwiwdeg;
  Yn wych iawn yn ychwaneg
  Tan Ferwyn yn ddyffryn teg.
Odiaeth a pherffaith, ie yw - y Goror
     A garaf fi heddiw,
  Llangar, plwyf hyfryd ydyw,
  Y fan fydd le da i fyw.

Ffowc Wynn o Nantglyn (1684)[4]

CyfeiriadauGolygu

  1. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 117.
  2. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 13.
  3. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 13.
  4. O Ferwyn i Fynyllod gan Trefor O. Jones (Cymdeithas Lyfrau Meirion; 1975); t. 11.