Ynys baradwysaidd ym mytholeg Iwerddon y cyfeirir ati yn aml yn y chwedlau Gwyddeleg yw Emain Ablach (ynganiad: "Efin Aflach"). Mae'n debygol ei fod i'w huniaethu ag Ynys Afallach y traddodiad Cymreig.

Yn chwedlau'r Cylch Mytholegol mae'n gartref i Manannán mac Lír, duw'r môr.

Yn y chwedl Immran Brain ('Mordaith Brân'), hwylia Bran a'i gydymdeithion yno. Fe'i disgrifir ar ddechrau'r gerdd honno fel ynys lawn o goed afalau, wedi ei amgylchynu gan y môr, a phedair colofn yn ei dwyn i fyny.

Mae'n debygol bod Emain Ablach yn cyfateb i Ynys Afallach y traddodiad Cymreig. Cyfeiria Sieffre o Fynwy at 'Ynys Afallach' yn ei gwisg Ladin Insula Avallonis yn yr Historia Regum Britanniae. Mae tarddiad Avallonis Sieffre yn ansicr. Yn hytrach na bod yn enghraifft o Ladineiddio'r enw Cymraeg Afallach mae'n debycach ei fod yn dod o'r Insula Pomorum (Ynys y Prennau Afalau) yn y testun proffwydoliaethol Vita Merlini, eto gan Sieffre, a'i fod yn tarddu o'r gair Cymraeg "afal".

Cyfeiriadau

golygu
  • Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (2000)
  • Kuno Meyer (gol.), The Voyage of Bran son of Febal (1895; arg. newydd, Felinfach, 1994)