Kuno Meyer
Ysgolhaig Celtaidd ac ieithydd o Almaenwr oedd Kuno Meyer (20 Rhagfyr 1858 - 11 Hydref 1919). Fe'i ganwyd yn Hamburg, yn frawd i'r hanesydd Clasurol Eduard Meyer (1855-1930).
Kuno Meyer | |
---|---|
Ganwyd | 20 Rhagfyr 1858 Hamburg |
Bu farw | 11 Hydref 1919 Leipzig |
Dinasyddiaeth | yr Almaen |
Alma mater | |
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | ieithydd, academydd, cyfieithydd |
Swydd | Chair of Celtic in Berlin |
Cyflogwr |
Cafodd yrfa hir a disglair fel ysgolhaig. Ar ôl astudio ieithyddiaeth dan Ernst Windisch ac eraill, aeth i Loegr i fod yn athro llenyddiaeth Almaeneg a'r iaith Almaeneg ym Mhrifysgol Lerpwl (1884-1911). Yn 1911 olynodd yr enwog Heinrich Zimmer fel Athro Ieithyddiaeth Geltaidd ym Mhrifysgol Berlin, a bu'n dysgu yno hyd ei farwolaeth yn 1919, yn Leipzig.
Meyer oedd y prif symbylydd tu ôl i sefydlu yr Ysgol Dysg Wyddeleg yn Nulyn yn 1903. Sefydlodd ddau o'r prif gylchgronau academaidd sy'n ymwneud ag astudiaethau Celtaidd. Un o'r rhain oedd y Zeitschrift für celtische Philologie yn yr Almaen, gyda Ludwig Christian Stern. Yr ail oedd Ériu, a sefydlodd ar y cyd â'r athro John Strachan.
Golygodd a chyfieithodd sawl testun Gwyddeleg, gan gynnwys Immram Brain. Rhoddwyd ddinasyddiaeth er anrhydedd i Kuno Meyer am ei wasanaeth i lenyddiaeth Wyddeleg a diwylliant Iwerddon gan ddinasoedd Dulyn a Cork yn 1912.
Llyfryddiaeth
golygu- S. Ó Lúing, Kuno Meyer 1858-1919 (Dulyn, 1991). Cofiant.