Immram Brain

(Ailgyfeiriad o Immran Brain)

Mae Immram Brain (neu Imram Brain, "Mordaith Bran"; teitl llawn: Immram Brain maic Febail) yn chwedl Hen Wyddeleg am fordaith arallfydol gan yr arwr Bran maic Febail (Bran fab Febail). Mae'n gyfuniad o ryddiaith a barddoniaeth. Tybir ei bod yn dyddio o'r 8g ac felly'n un o'r testunau hynaf yn llenyddiaeth Wyddeleg. Mae'n cyfuno elfennau mytholegol cynnar gyda syniadau Cristnogol. Ceir y testun hynaf yn llawysgrif Druim Snechta.

Naratif sy'n adrodd hanes mordaith (immram: yn lythrennol "rhwyfo", sef 'mordaith') gan Bran a geir yn y chwedl. Mae'n dechrau gydag ymddangosiad merch ryfeddol yn llys yr arwr. Wedi'i chlymu o'i chwmpas mae ganddi ddarn o bren sy'n creu cerddoriaeth ber a swynol. Cangen o goeden afalau sy'n tyfu yng ngwlad hud a lledrith Emain Ablach ydyw.

Pan ddiflanna'r ferch a'r gangen penderfyna Bran fynd allan ar fordaith gan gymryd gyda fo gwmni o 27 o gydymdeithion i geisio darganfod yr ynys hud. Ar ôl deuddydd ar y môr maent yn cyfarfod Manannán mac Lir sy'n eu hebrwng i ynys lawn o bobl dedwydd. Dyma'r Tír na n-Óg enwog, 'Gwlad Ieuenctid'. Wedyn fe ânt yn eu blaenau i ynys arall lle ni cheir ond merched hardd. Yna y treuliant nifer o flynyddoedd mewn dedwyddwch pur ond nid yw'r amser yn ymddangos iddynt ond fel blwyddyn.

Ond mae Nechtan, un o gydymdeithion Bran, yn dechrau hiraethu i weld Iwerddon eto ac maent yn dechrau ar y fordaith adref. Mae brenhines yr ynys yn ymbil arnynt i beidio mynd ac yn eu rhybuddio i beidio gosod troed ar dir Iwerddon. Ond pan gyrhaeddant Iwerddon ni all Nechtan beidio â neidio i'r lan. Ar unwaith dyma fo'n troi'n llwch fel petasai'n farw ers blynyddoedd. Mae Bran a gweddill ei griw yn ffarwelio ac Iwerddon ac yn dychwelyd i'r ynys ddedwydd ar ôl adrodd ei hanes, o'r llong, i gwmni o Wyddelod ar y tir.

Llyfryddiaeth

golygu

Testun

golygu
  • T. Gwynn Jones (cyf.), Awen y Gwyddyl (Caerdydd, Cyfres y Werin, 1922). Cyfieithiad rhydd o un o'r cerddi.
  • S. MacMathúna (gol.), Bran's Journey to the Land of Women (Tübingen, 1985)
  • Kuno Meyer (gol.), The Voyage of Bran (Llundain, 1895; adargraffiad Gwasg Llanerch, 1994)

Darllen pellach

golygu
  • K. McCone, Pagan Past and Christian Present in Early Irish Literature (Maynooth, 1990)
  • J. E. Caerwyn-Williams, Traddodiad Llenyddol Iwerddon (Caerdydd, 1958)