Emyr Llydaw
Emyr Llydaw, yn ôl y traddodiad Cymreig, oedd brenin Llydaw yn amser Arthur. Ond er ei fod yn gymeriad yn nhraddodiadau cynnar Cymru, mae 'emyr' yn enw cyffredin sy'n golygu 'ymerodr, arglwydd, brenin' ac mae'n debyg mai teitl cyffredinol ar frenin Llydaw oedd yn wreiddiol.
Emyr Llydaw | |
---|---|
Ganwyd | 460 |
Bu farw | 544 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines, pendefig |
Cysylltir gyda | Tanwg |
Plant | Miliau, Riwal, Derwela |
Ymhlith ei blant yn y ffynonellau Cymraeg ceir Hywel fab Emyr Llydaw, cydymaith y brenin Arthur, Gwen Teir Bron, Canna ac Alan Fergan. Yn ôl Historia Regum Brittanniae Sieffre o Fynwy, cynorthwyodd Emrys Wledig (Ambrosius) ac Uthr Bendragon ar ôl iddynt ffoi i Lydaw.
Ffynhonnell
golygu- Trioedd Ynys Prydein, gol. Rachel Bromwich (Caerdydd, argraffiad newydd 1991), tud. 346-7.