Tanwg
sant Cymreig o'r 6g
Sant Cymreig oedd Tanwg (fl. 6g), a oedd yn fab i Ithael Hael, a ffoes o Lydaw i Gymru gydag Emyr Llydaw yn ôl traddodiad.[1] Dethlir ei Ŵyl Mabsant ar 10 Hydref.
Tanwg | |
---|---|
Ganwyd | Ynys Môn |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | mynach |
Blodeuodd | 6 g |
Cysylltir gyda | Emyr Llydaw |
Dydd gŵyl | 10 Hydref |
Tad | Ithel Hael |
Hanes a thraddodiad
golyguYchydig iawn a wyddys am y sant ei hun. Dywedir ei fod wedi astudio yng nghlas enwog Ynys Enlli. Roedd yn frawd i ddau sant arall, Gredifael (Penmynydd) a Fflewyn (a gysylltir â Llanrhuddlad ym Môn). Mae rhai achau yn ei wneud yn frawd i'r seintiau Tecwyn, Tegai, Trillo, Twrog, Baglan a Llechid yn ogystal. Dywedir fod Tanwg wedi dod i'r ardal yng nghwmni'r sant Cadfan, a sefydlodd clas Tywyn.[1]
Sefydlodd Llandanwg yn Ardudwy, Gwynedd. Ar un adeg roedd eglwysi Harlech a Llanbedr yn gysegredig iddo hefyd.[1]