Santes Canna

santes o'r 6g

Merch i Tewdwr ap Emyr Llydaw oedd Canna.[1]

Santes Canna
Croes Santes Canna yn Llan-gan, Bro Morgannwg.
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
Man preswylLlaneilian Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethlleian, arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Blodeuodd550 Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl25 Hydref Edit this on Wikidata
TadTewdwr Mawr Edit this on Wikidata
PriodSadwrn Edit this on Wikidata
PlantCrallo, Eilian Edit this on Wikidata

Cymysgu gyda Santesau eraill golygu

Mae yn anodd bod yn sicr fod unrhyw llan wedi'i chysegru â hi, yn benodol, gan ei bod hi'n cael ei chymysgu gydag o leiaf tair santes arall: Ceinwen, Ceindrych a Chenhedlon - tair o ferched Brychan.

Dianc o Lydaw golygu

Dihangodd ei theulu o Lydaw ar ôl i Hoel gipio grym yno tua 546. Priododd â Sadwrn oedd yn berthynas iddi; (roedd yntau a'i deulu hefyd wedi dianc o Lydaw) a chawsant fab, Crallo. Buont yn byw am gyfnod yn ne Cymru ble sefydlasant Llansadwrn ger Llanymddyfri cyn ymgartrefu ym Môn a sefydlu Llansadwrn arall. Ar ôl marwolaeth Sadwrn prioddodd Canna eto, gydag Alltu Redegog a chawsant ddau o blant Eilian a Thegfan.[1]

Mae Canna yn cael ei chysylltu gyda nifer o eglwysi ond gan fod y mwyafrif yn ne Cymru mae'n debyg y dylent cael ei chysylltu gyda rhai o ferched Brychan.

Yn eglwys Biwmares mae cerfluniau o Canna a Sadwrn a wnaethpwyd yn y 15g.[2] Mae cerflun Canna yn dangos llyfr yn ei law, arwydd ei bod hi wedi addysu eraill, a ffon yn y llaw arall, sy'n ail-ddechrau tyfu brigau a dail.[3]

Bu ei mab Eilian hefyd yn sant; cysylltir ef gyda Llaneilian ar Ynys Môn a Llaneilian-yn-Rhos ger Bae Colwyn.

Nid oes sôn amdani yn y traethodyn achyddol Bonedd y Saint (12g) nac ychwaith yn y Calendrau Cymreig .[4]

Dethlir ei gŵyl ar 25 Hydref.[5][6]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Brereton T.D. 2000, The Book of Welsh Saints, Glyndwr publishing
  2. Spencer, R, 1991 Saints of Wales and the West Country, Llanerch
  3. Bryce, E (Ed)1990, Lives of the British Saints, Llanerch
  4. A Welsh Classical Dictionary; gol: Peter Clement Bartrum; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  5. BBC. "Reading the Ruins". History Wales. BBC. Cyrchwyd 2006-10-26.[dolen marw]
  6. catholicsaints.info; adalwyd 5 Mawrth 2017.