Enda Kenny
Gwleidydd Gwyddelig a'r arweinydd y blaid Fine Gael yn Dáil Éireann yw Enda Kenny (ganwyd 24 Ebrill 1951). Cafodd ei eni yn Castlebar, Swydd Mayo ym 1951. Ar 5 Mehefin 2002, cafodd ei ethol fel arweinydd plaid Fine Gael a daeth yn Brif Weinidog ar 9 Mawrth 2011.
Enghraifft o'r canlynol | bod dynol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Enda Kenny TD | |
| |
Cyfnod yn y swydd 9 Mawrth 2011 – 14 Mehefin 2017 | |
Rhagflaenydd | Brian Cowen |
---|---|
Olynydd | Leo Varadkar |
Geni | 24 Ebrill 1951 Castlebar, Swydd Mayo, Gweriniaeth Iwerddon |
Etholaeth | Mayo Gorllewin |
Plaid wleidyddol | Fine Gael |
Priod | Fionnuala O'Kelly |
Crefydd | Catholigiaeth Rhufeinig |
Kenny oedd Taoiseach cyntaf Fine Gael ers John Bruton (1994–1997), ac arweinydd cyntaf Fine Gael i ennill etholiad cyffredinol ers Garret FitzGerald yn 1982. Daeth y Taoiseach hiraf mewn sydd ym mis Ebrill April 2017.[1] Fe'i olynwyd ef fel taoiseach gan Leo Varadkar ar 17 Mehefin 2017. Mae Varadkar hefyd o blaid Fine Gael.
Nodweddwyd ei gyfnod fel Prif Weinidog gan bolisïau o 'lymder' er mwyn delio gyda dirwasgiad byd-eang a ddigwyddodd yn 2008. Roedd ei bolisiau'n amhoblogaidd gan garfan sylweddol o'r boblogaeth ond heb fod yn ddigon i'w blaid golli etholiad. Disgrifiwyd y polisiau economaidd fel heb gydymffurfio i "naill ai patrwm blaengar (colledion yn cynyddu gydag incwm) na phatrwm adweithiol (colledion yn lleihau gydag incwm).[2]
Un o nodweddion symbolaidd fwyaf ei arweinyddiaeth oedd rhoi ymddiheuriad cenedlaethol ar 19 Cwhefror 2013 i Dáil Éireann i'r rhai a ddioddefodd yn Golchdai Maghalene (lle cadwyd plant amddifad). Dywedodd y Llywodraeth y byddent yn creu cynllun compensation i'r 800 - 1,000 o bobl oedd yn fyw ac wedi dioddef.[3]