John Bruton

Gwleidydd Gwyddelig

Mae John Gerard Bruton (Gwyddeleg: Seán de Briotún) (ganwyd 18 Mai 1947) yn wleidydd Gwyddelig, a fu'n taoiseach (Prif Weinidog) Gweriniaeth Iwerddon o 15 Rhagfyr 1994 i 26 Mehefin 1997. Bu hefyd yn llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i Unol Daleithiau America.

John Bruton
John Bruton 2011.jpg
Taoiseach
Yn ei swydd
15 Rhagfyr 1994 – 26 Mehefin 1997
Arlywydd Mary Robinson
Tánaiste Dick Spring
Rhagflaenwyd gan Albert Reynolds
Dilynwyd gan Bertie Ahern
Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i Unol Daleithiau America
Yn ei swydd
24 Tachwedd 2004 – 31 Hydref 2009
Arlywydd José Manuel Barroso
Rhagflaenwyd gan Günter Burghardt
Dilynwyd gan Angelos Pangratis (Acting)
Arweinydd yr Wrthblaid
Yn ei swydd
26 Mehefin 1997 – 9 Chwefror 2001
Arlywydd Mary Robinson
Mary McAleese
Taoiseach Bertie Ahern
Rhagflaenwyd gan Bertie Ahern
Dilynwyd gan Michael Noonan
Yn ei swydd
20 Tachwedd 1990 – 15 Rhagfyr 1994
Arlywydd Patrick Hillery
Mary Robinson
Taoiseach Charles Haughey
Albert Reynolds
Rhagflaenwyd gan Alan Dukes
Dilynwyd gan Bertie Ahern
Arweinydd Fine Gael
Yn ei swydd
21 Tachwedd 1990 – 9 Chwefror 2001
Dirprwy Peter Barry
Nora Owen
Rhagflaenwyd gan Alan Dukes
Dilynwyd gan Michael Noonan
Dirprwy Arweinydd Fine Gael
Yn ei swydd
26 Mawrth 1987 – 20 Tachwedd 1990
Arweinydd Alan Dukes
Rhagflaenwyd gan Peter Barry
Dilynwyd gan Peter Barry
Minister for the Public Service
Yn ei swydd
20 Ionawr 1987 – 10 Mawrth 1987
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Ruairi Quinn
Dilynwyd gan Alan Dukes
Minister for Finance
Yn ei swydd
14 Chwefror 1986 – 10 Mawrth 1987
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Alan Dukes
Dilynwyd gan Ray MacSharry
Yn ei swydd
30 Mehefin 1981 – 9 Mawrth 1982
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Gene Fitzgerald
Dilynwyd gan Ray MacSharry
Minister for Industry, Trade, Commerce and Tourism
Yn ei swydd
13 Rhagfyr 1983 – 14 Chwefror 1986
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Garret FitzGerald (Acting)
Dilynwyd gan Michael Noonan
Minister for Industry and Energy
Yn ei swydd
14 Rhagfyr 1982 – 13 Rhagfyr 1983
Taoiseach Garret FitzGerald
Rhagflaenwyd gan Albert Reynolds
Dilynwyd gan Dick Spring
Parliamentary Secretary to the Minister for Education
Yn ei swydd
14 Mawrth 1973 – 25 Mai 1977
Taoiseach Liam Cosgrave
Rhagflaenwyd gan Bobby Molloy
Dilynwyd gan Jim Tunney
Parliamentary Secretary to the Minister for Industry and Commerce
Yn ei swydd
14 Mai 1973 – 25 Mai 1977
Taoiseach Liam Cosgrave
Rhagflaenwyd gan Gerry Collins
Dilynwyd gan Máire Geoghegan-Quinn
Teachta Dála
Yn ei swydd
June 1969 – 31 Hydref 2004
Etholaeth Meath
Manylion personol
Ganwyd John Gerard Bruton
(1947-05-18) 18 Mai 1947 (73 oed)
Dunboyne, County Meath, Ireland
Cenedligrwydd Gwyddel
Plaid wleidyddol Fine Gael
Priod Finola Bruton (m. 1978)
Perthnasau Richard Bruton (Brother)
Plant 3
Rhieni
  • Joseph Bruton
  • Doris Bruton
Addysg Clongowes Wood College
Alma mater
Galwedigaeth
Gwefan Official website

Ganed ef yn Dunboyne, County Meath i deulu amaethu Catholig cyfoethog. Noda Oliver Coogan yn ei lyfr, 'Politics and War in Meath 1913–23' i'w daid wrthod i'r helfa cadnoid gan y teuluoedd Eingl-Wyddelig lleol, tramgwyddo ei dir adeg Rhyfel Annibyniaeth. Gelwir ef yn Taoiseach lwcus am y ffordd yr enillodd rym ac i economi Iwerddon brasgamu i'r cyfnod 'Celtic Tiger' yn ystod ei gyfnod fel arweinydd.

AddysgGolygu

Graddiodd o'r ysgol yr Iesuwyr Coleg Clongowes Wood, astudiodd economeg yng Ngholeg Prifysgol Dulyn a chyfreith yn y King's Inns, gan ddod yn fargyfreithiwr (cyfreithiwr sy'n cynrychioli'r cleient yn y llys) yn 1970.[1] Bu'n ymwneud â gwleidyddiaeth Fine Gael yn ddyn ifanc, gan ymunodd â hi ym 1965.

Gyrfa wleidyddolGolygu

 
Cyflwyno Gwobrau fel Gweinidog Diwydiant, Medi 1984

Ym 1969 fe'i hetholwyd i senedd Iwerddon, Dáil Éireann am y tro cyntaf. Fe'i ail-etholwyd yn llwyddiannus yn etholiadau 1973, 1977, 1981, 1982, Tachwedd 1982, 1987, 1989, 1992, 1997 a 2002, yn gwasanaethu fel Teacht Dala yn nhŷ isaf Senedd Iwerddon.[2]

Yn 1973 - 1977 bu'n ysgrifennydd seneddol. O fis Mehefin 1981 i fis Mawrth 1982 bu'n Weinidog Cyllid. O fis Rhagfyr 1982 i fis Rhagfyr 1983 bu'n Weinidog Diwydiant ac Ynni, yna'r Gweinidog Diwydiant, Masnach a Thwristiaeth (tan fis Chwefror 1986), y Gweinidog Cyllid (tan fis Ionawr 1987) a'r Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus (tan fis Mawrth 1987). Yn 1990 daeth yn llywydd newydd plaid Fine Gael gan gymryd lle Alan Dukes fel arweinydd. [3]

Taoiseach, Prif Weinidog IwerddonGolygu

Ar ôl etholiadau 1992, daeth Fine Gael yn wrthblaid. Fodd bynnag, yn dilyn anghytuno o fewn clymblaid llywodraethol Albert Reynolds Fianna Fail a Plaid Lafur Iwerddon yn 1994, llwyddodd Burton i greu llywodraeth newydd, 'yr enfys, yn cynnwys Fine Gael, y Blaid Lafur a'r Chwith Democrataidd. Yn 47 oed daeth Burton yn taoiseach ifancaf Iwerddon (nes i Leo Varadkar, gipio'r teitl yma yn 2017). Dyma'r tro cyntaf i'r Iwerddon gael prif weinidog newydd heb gynnal Etholiad Cyffredinol. Daliodd swydd y Taoiseach ac arweinydd Llywodraeth yr enfyd o fis Rhagfyr 1994 i fis Mehefin 1997. Yn ystod y cyfnod hwn, ymhlith eraill, bu'n arwain Llywyddiaeth Iwerddon yr Undeb Ewropeaidd, yn ystod drafodaethau ar y Pact Sefydlogrwydd a Thyfiant.[4]

Yn 2001, ymddiswyddodd fel pennaeth y Fine Gael. Bu'n aelod o'r senedd, a'i gynrychioli yn y Confensiwn Ewropeaidd.[5] Yn 2004, ymddiswyddodd o fandad y dirprwy. [4] O fis Rhagfyr 2004 i fis Hydref 2009, roedd yn Llysgennad yr Undeb Ewropeaidd i'r Unol Daleithiau.[6]

Roedd disgwyl i Fine Gael ennill etholiad 1997, ond er i'r blaid wneud yn dda, collodd Llafur tir. Yn y pendraw, sefydlwyd llywodraeth newydd rhwng Fianna Fail a'r Progressive Democrats o dan arweinyddiaeth Bertie Ahern ac ymddiswyddodd Burton yn 2001.

Nodweddion ei Brif WeinidogaethGolygu

Cytunwyd i lywodraeth yr enfys fod yn un llwyddiannus, gyda chydweithio agos rhwng Bruton ac arweinydd y Blaid Lafur, Dick Spring a Proinsias de Rossa o'r Chwith Democrataidd. Daeth Bruton o draddodiad Plaid Seneddol Iwerddon, a hongiai darlun o John Redmond yn ei swyddfa - y dyn a gollodd i don gweriniaethol Sinn Fein wedi Gwrthryfel y Pasg. Ond roedd hefyd portread o Seán Lemass, dyn, a dybiau Bruton i fod yn Brif Weinidog mwyaf effeithiol y wladwriaeth, er ei fod yn aelod o Fianna Fail.

O dan Lywodraeth yr Enfys, pasiwyd Refferendwm a newidiodd Cyfansoddiad y Weriniaeth gan roi rhai hawliau i gyplau priod ysgaru o fewn cyfyngderau. Roedd y refferendwm ar 24 Tachwedd 1995 gyda'r bleidlais yn agos tu hwnt; 818,842 (50.28%) o blaid newid y cyfansoddiad, a 809,728 (49.72%) yn erbyn. Daeth yn ddeddf gwlad ar 17 Mehefin 1996.[7]

Gwelwyd datblygiadau tuag at cymodi a rhoi trefn cyfansoddiadol newydd rhwng Gogledd Iwerddon, y Weriniaeth a Phrydain gyda lansio 'Dogfen Fframwaith' Eingl-Wyddelig ym mis Chwefror 1995 gyda Phrif Weinidog Prydain, John Major. Er i'r cyn Taoisech, Albert Reynolds ei alw'n 'John Unionist' roedd yn feirniadol iawn o benderfyniad Prydain i beidio ymwneud gyda Sinn Fein yn ystod cadoediad yr IRA rhwng 1994-97.

Yn ystod ei gyfnod hefyd, fe groesawyd Tywysog Charles i'r Iwerddon. Dyma'r ymweliad gyntaf gan aelod o deulu brenhinol Lloegr i'r Iwerddon ers 1912.

Yn dilyn llofruddio'r newyddiadurwraig, Veronica Guerin, sefydlodd ei Lywodraeth y Criminal Assets Bureau.

PersonolGolygu

Mae'n briod â Finola Bruton, mae ganddo bedwar o blant.[8] Ef yw brawd gwleidydd Richard Bruton.

DolenniGolygu

CyfeiriadauGolygu