Endelyn ach Cynyr

Santes Geltaidd

Santes o Gernyw o'r 6g oedd Endelyn neu Endellion.[1]

Endelyn ach Cynyr
Ganwyd5 g Edit this on Wikidata
Cernyw Edit this on Wikidata
Bu farw6 g Edit this on Wikidata
Cernyw Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl29 Ebrill Edit this on Wikidata
TadBrynach Wyddel Edit this on Wikidata
MamCymorth Edit this on Wikidata

Roedd Endelyn yn ferch i Cymorth[2], wyres Brychan Brycheiniog, a Brynach un o'i cynghorwyr ef. Ganwyd hi yng Nghernyw ar ôl i'w theulu symud yno. Roedd ganddi dair chwaer Mynfer, Mabyn a Mwynen (Morwenna). Treuliodd gyfnod ar Ynys Wair ble mae ganddi gapel. Symudodd i bentref ger Padstow sy'n dwyn ei henw, sef Sen Endelyn (Saesneg: Sant Endellion).

Mae dwy ffynnon ym mhentref Sen Endelyn wedi'i chysegru iddi ac mae rhan o'i bedd wedi goroesi yn yr eglwys leol. Dethlir dydd ei gŵyl ar 29 Ebrill. Yr enw Lladin arni yw Endelienta.

Buwch Endellion golygu

Ceir hanes am Endelyn yn adrodd fod ganddi fuwch a odrodd ei hun pob dydd. Un diwrnod crwydrodd y fuwch ar dir pennaeth Trerigoni (Saesneg: Tregony). Gwylltiodd ef a lladdodd y fuwch. Er mwyn dial lladdodd tad bedydd Endelyn y pennaeth ond llwyddodd Endelyn ei adfywio.[3]

Enw ffasiynol heddiw golygu

Ar 25 Awst 2010 cyhoeddodd David Cameron a'i wraig Samantha iddynt alw eu plentyn newydd anedig yn Florence Rose Endellion gan iddynt fwynhau eu gwyliau ym mhentref St Endellion, Cernyw.[4][5]

Llefydd cysylltiedig golygu

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Church of St Endelienta
 
50°34′24″N 4°49′48″W / 50.5733°N 4.83011°W / 50.5733; -4.83011 Sant Endelyens Q17529577
2 Sant Endelyens
 
50°34′23″N 4°49′48″W / 50.573°N 4.83°W / 50.573; -4.83 Cernyw Q3495314
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Gweler hefyd golygu

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau golygu

  1. www.llgc.org.uk; A Welsh Classical Dictionary; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
  2. Jones, TT 1977 The Daughters of Brychan, Brycheiniog Cyf.XVII
  3. R. Spencer, R, Saints of Wales and the West Country (Llanerch, 1991)
  4. "Cameron 'proud dad' after wife Samantha has baby girl". BBC News. BBC. 24 Awst 2010. Cyrchwyd 26 Awst 2010.
  5. "Camerons reveal daughter's name". BBC News. BBC. 25 Awst 2010. Cyrchwyd 26 Awst 2010.