Ynys Wair
Ynys ym Môr Hafren yw Ynys Wair (Saesneg: Lundy neu Lundy Island). Fe'i gweinyddir fel rhan o Ardal Torridge yn sir seremonïol Dyfnaint, De-orllewin Lloegr. Hi ydyw ynys fwyaf Môr Hafren - mae hi tua 4.5 km o hyd (o'r gogledd i'r de) a thua 1 km o led. Ynys Wair ydyw'r unig warchodfa natur forol yn Lloegr. Mae 18 o bobl (yn 2006) yn byw ar yr ynys, y rhan fwyaf mewn pentre bach yn y rhan ddeheuol. Ceir hen oleudy yno.
![]() | |
Math |
ynys, Microgenedl, ardal ddi-blwyf ![]() |
---|---|
| |
Poblogaeth |
28 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad |
Môr Hafren ![]() |
Gwlad |
![]() |
Arwynebedd |
4.25 km² ![]() |
Gerllaw |
Y Môr Celtaidd ![]() |
Cyfesurynnau |
51.1667°N 4.6667°W ![]() |
Cod SYG |
E04003303 ![]() |
Hyd |
4.5 cilometr ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth |
William Hudson Heaven, Hudson Grosett Heaven ![]() |
Statws treftadaeth |
Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Mae'r llong MS Oldenburg yn dod â theithwyr i'r ynys tuag at pum gwaith bob dydd yn ystod yr haf. Mae 23 o fythynnod ar gael i deithwyr i'r ynys.[1]. Gwelir tua 140 rhywogaeth o adar ar yr ynys, ac mae hyd at 35 ohonynt yn nythu yno.[2]
Perchnog yr ynys yw'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Gwarantwyd y pwrcas gan yr Ymddiriedolaeth Landmark, a chyfrannodd Jack Hayward £150,000 at y cost. Cytunodd yr Ymddiriedolaeth Landmark i adfer yr adeiladau ac yn sicrhau bod yr ynys ar gael i'r cyhoedd. Cyblhawyd y gwaith papur ar 29ain Medi 1969.[3]