Enwau ac Anryfeddodau Ynys Prydain
Hen lawysgrif mewn Cymraeg Canol yw Enwau ac Anryfeddodau Ynys Prydain. Mae ystumio lle ac amser yn thema graidd drwy'r gwaith.
Llinellau agoriadol Enwau ac Anrhyfeddodau Ynys Prydain yn Llyfr Coch Hergest | |
Math o gyfrwng | gwaith ysgrifenedig |
---|---|
Rhan o | Llyfr Coch Hergest |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1385 |
Yn fersiwn Llyfr Coch Hergest (1385-1420) o Enwau ac Anryfeddodau Ynys Prydain, disgrifir saith ar hugain o ryfeddodau yn Ynys Prydain a gellir eu dosbarth fel hyn:
- pethau naturiol - 2
- annaturiol - 7
- goruwchnaturiol - 18[1]
Mae 5 o'r themau i'w cael mewn llawysgrif cynharach a sgwennwyd mewn Lladin gan Gymro, sef yr Historia Brittonum (829–830).
Dim ond chwarter y rhyfeddodau sy’n cynnwys gwybodaeth y gellir ei lleoli yn ddaearyddol; rhoddir lleoliadau penodol i chwech a chyfeirir at un rhyfeddod ychwanegol fel mynydd ‘yn Lloegr’. Mae pob un o ryfeddodau'r Historia Brittonum wedi eu leoli'n union.
Mae'r pethau goruwchnaturiol yn cynnwys: castell sy'n edrych yn llawn gyda deg ar hugain o ddynion ond sy'n gallu ehangu i gynnwys mil, carreg sydd bob amser yn dychwelyd i'r un lle ni waeth pa mor bell rydych chi'n mynd â hi, neu ogof lle mae un diwrnod y tu mewn yn ymddangos fel saith diwrnod.
Gwledydd eraill
golyguCopïwyd y rhyfeddodau hyn, fel y disgrifir yn Historia Brittonum ac Enwau ac Anryfeddodau Ynys Prydain y tu allan i Gymru gan: 1. Harri o Huntingdon (12c cynnar) 2. Alfred o Beverley (12c cynnar) 3. Sieffre o Fynwy (fl. 1136) 4. Gerallt Cymro (fl. 1190), Mae pob un o'r rhain yn integreiddio ac yn plethu'r Rhyfeddodau penodol dan sylw o Ynys Prydain i fewn i naratif eu gweithiau eu hunain.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Enwau ac Anryfeddodau Ynys Prydain and a Tradition of Topographical Wonders in Medieval Britain gan A. Joseph McMullen.