Apocryffa'r Testament Newydd

Ysgrifau gan Gristnogion yn oes yr Eglwys Fore sydd yn cynnwys straeon am fywyd Iesu Grist a'i ddysgeidiaeth, natur y Duw Cristnogol, neu ddysgeidiaeth a bywydau'r apostolion yw Apocryffa'r Testament Newydd. Cafodd rhai ohonynt eu hystyried yn ysgrythur gan Gristnogion cynnar, ond ers y 5g ni chynhwysir y gweithiau hyn yng nghanon y Testament Newydd, ac felly fe'i ystyrient yn apocryffa.

Tudalen o Godecs Tchacos, brwynbapur Copteg o'r 4g sydd yn cynnwys yr Efengyl yn ôl Jwdas.

Rhwng yr 2g a'r 4g, ysgrifennwyd mwy na chant o lyfrau gan awduron Cristnogol a ystyrir yn Apocryffa. Nodai'r fath weithiau gan eu ffurf gyffredin, sydd yn debyg i genres y Testament Newydd (efengyl, actau, epistolau, ac apocalyps), a'r ffaith nad ydynt yn perthyn i ganon y Testament Newydd nac i ysgrifeniadau Tadau'r Eglwys. Ysgrifennwyd nifer ohonynt gan y Gnostigiaid, a chawsant eu rhannu ymhlith y rhai a ynydwyd yn unig. Cafodd eraill eu hysgrifennu ar gyfer yr eglwysi cyffredinol, ond na chawsant eu derbyn yn rhan o'r canon Beiblaidd.

Efengylau golygu

Efengylau'r babandod golygu

Efengylau Iddewig–Gristnogol golygu

  • Efengyl yr Ebioniaid
  • Efengyl yr Hebreaid
  • Efengyl y Nasareaid

Efengylau anghanonaidd golygu

  • Yr Efengyl yn ôl Marcion
  • Yr Efengyl yn ôl Mani
  • Yr Efengyl yn ôl Apelles
  • Yr Efengyl yn ôl Bardesanes
  • Yr Efengyl yn ôl Basilides

Efengyl dywediadau'r Iesu golygu

  • Yr Efengyl yn ôl Tomos

Efengylau'r dioddefaint golygu

  • Yr Efengyl yn ôl Pedr
  • Yr Efengyl yn ôl Nicodemus, neu Actau Peilat
  • Buchedd a Dioddefaint Crist (gan y ffug-Cyril)
  • Yr Efengyl yn ôl Bartholomeus
  • Ymholiadau Bartholomeus
  • Atgyfodiad Iesu Grist (a briodolir i Bartholomeus)

Efengylau cytûn golygu

  • Diatessaron

Testunau Gnostigaidd golygu

Ymgomion â'r Iesu golygu

  • Apocryffon Iago
  • Llyfr Tomos
  • Ymgom y Gwaredwr
  • Yr Efengyl yn ôl Jwdas
  • Yr Efengyl yn ôl Mair Fadlen
  • Yr Efengyl yn ôl Philip
  • Efengyl Roeg yr Eifftiaid
  • Soffia Iesu Grist

Testunau cyffredinol ynglŷn â'r Iesu golygu

  • Apocalyps Copteg Pawl
  • Efengyl y Gwir
  • Apocalyps Gnostigaidd Pedr
  • Llythyr Lentulus
  • Pistis Sophia
  • Ail Traethawd Seth Fawr

Testunau'r Sethiaid golygu

  • Apocryffon Ioan
  • Efengyl Gopteg yr Eifftiaid
  • Trimorphic Protennoia

Defodlyfrau golygu

  • Diagramau'r Offiaid
  • Llyfrau Jeu

Actau'r Apostolion golygu

  • Actau Andreas
  • Actau Barnabas
  • Actau Ioan
  • Actau Mar Mari
  • Actau'r Merthyron
  • Actau Pawl
  • Actau Pawl a Thecla
  • Actau Pedr
  • Actau Pedr ac Andreas
  • Actau Pedr a Phawl
  • Actau Pedr a'r Deuddeg
  • Actau Philip
  • Actau Peilat
  • Actau Tomos
  • Actau Timotheus
  • Actau Xanthippe, Polyxena, a Rebeca

Llythyrau golygu

  • Llythyr Barnabas
  • Llythyrau Clement
  • Llythyr y Corinthiaid at Bawl
  • Llythyr Ignatius at y Smyrnaeaid
  • Llythyr Ignatius at y Traliaid
  • Llythyr Polycarp at y Philipiaid
  • Llythyr Diognetus
  • Llythyr Pawl at y Laodiceaid
  • Llythyr Pawl at Seneca'r Ieuaf
  • Trydydd Llythyr Pawl at y Corinthiaid

Apocalypsau golygu

  • Apocalyps Pawl
  • Apocalyps Pedr
  • Apocalyps y ffug-Methodius
  • Apocalyps Tomos neu Ddatguddiad Tomos
  • Apocalyps Steffan neu Ddatguddiad Steffan
  • Apocalyps Cyntaf Iago neu Ddatguddiad Cyntaf Iago
  • Ail Apocalyps Iago neu Ail Ddatguddiad Iago
  • Bugail Hermas

Tynged y Forwyn Fair golygu

  • Dychweliad Mair
  • Huniad Mam Duw
  • Genedigaeth Mair

Testunau amrywiol golygu

  • Cyfansoddiadau Apostolaidd
  • Llyfr Nepos
  • Canonau'r Apostolion
  • Ogof y Trysorau
  • Llên Glemennaidd
  • Didache (holwyddoreg)
  • Litwrgi Sant Iago
  • Edifeirwch Origen
  • Gweddi Pawl
  • Brawddegau Sextus
  • Physiologus
  • Llyfr y Wenynen

Dernynnau golygu

  • Efengyl Anhysbys Berlin
  • Y Dernyn Naseanaidd
  • Dernyn Fayyum
  • Cudd-Efengyl Marc
  • Efengylau Oxyrhynchus
  • Dernyn Egerton

Gweithiau coll golygu

  • Efengyl Efa
  • Efengyl y Pedair Teyrnas Nefol
  • Efengyl Matthias
  • Efengyl Perffeithder
  • Efengyl y Deg a Thrigain
  • Efengyl Thaddaeus
  • Efengyl y Deuddeg
  • Memoria Apostolorum

Gweler hefyd golygu