Eric Fellner
Mae Eric Fellner, CBE (ganed 10 Hydref 1959, Lloegr) yn gynhyrchydd ffilmiau o Loegr sydd wedi cael ei enwebu am Wobr yr Academi.
Eric Fellner | |
---|---|
Ganwyd | 10 Hydref 1959 Lloegr |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | cynhyrchydd ffilm, cynhyrchydd gweithredol, cynhyrchydd teledu, cynhyrchydd |
Priod | Gaby Dellal |
Gwobr/au | CBE |
Gyrfa
golyguMae Eric Fellner yn gweithio gyda Working Title Films yn Llundain gyda Tim Bevan. Mae'r ffilmiau lle mae wedi gweithio fel cynhyrchydd neu uwch-gynhyrchydd yn cynnwys Moonlight and Valentino, Four Weddings and a Funeral, Dead Man Walking, Fargo, Notting Hill, United 93 a Bridget Jones's Diary.
Arwyddodd Working Title Films gytundeb gydag Universal Studios ym 1999 a roddodd y pŵer i Bevan a Fellner i gomisiynnu ffilmiau gyda chyllid o $35 miliwn (UDA) heb iddynt orfod dderbyn caniatad eu meistri. Bellach, y cwmni hwn yw'r cwmni cynhyrchu annibynnol mwyaf ym Mhrydain gyda swyddfeydd yn Llundain ac yn Los Angeles. Mae eu llwyddiannau'n cynnwys Four Weddings And A Funeral (1994) a wnaeth dros $250 (UDA) miliwn yn fyd eang. Enillodd Dead Man Walking a Fargo Oscars ym 1996 ac ym 1997, tra bod Elizabeth (1998) ac Atonement (2007) wedi cael eu henwebu am y Ffilm Orau yng Ngwobrau'r Academi.