Erich Maria Remarque
Awdur o'r Almaen oedd Erich Maria Remarque [1] (22 Mehefin 1898 – 25 Medi 1970), yn fwyaf enwog am ei nofel All Quiet on the Western Front. Fe'i bedyddiwyd yn Erich Paul Remark ond newidiodd ei enw canol Paul pan gyhoeddwyd All Quiet on the Western Front er cof am ei fam. Newidiodd yr enw teulu i Remarque am ei fod am ddatgysylltu ei hun o nofel a gyhoeddodd yn 1920 sef Die Traumbude.[2]
Erich Maria Remarque | |
---|---|
Ganwyd | Erich Paul Remark 22 Mehefin 1898 Osnabrück |
Bu farw | 25 Medi 1970 Locarno |
Dinasyddiaeth | yr Almaen, Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | llenor, nofelydd, dramodydd, sgriptiwr |
Adnabyddus am | All Quiet on the Western Front, Shadows in Paradise, The Road Back, Spark of Life, The Dream Room |
Priod | Paulette Goddard, Ilse Jutta Zambona, Ilse Jutta Zambona |
Partner | Marlene Dietrich |
Gwobr/au | Croes Cadlywydd Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Y Groes Haearn, Order of Merit of the Federal Republic of Germany, Q1714472 |
llofnod | |
Fe anwyd Erich ar yr 22 o Fehefin 1898 i deulu dosbarth gweithiol yn ninas Osnabruck; ei dad Peter Franz Remark (g. 14 Mehefin 1867 yn Kaiserswerth) ac Anna Maria (née Stallknecht a anwyd ar 21 Tachwedd 1871 yn Katernberg).
Oherwydd gorfodaeth filwrol ymunodd Remarque â'r fyddin yn ddeunaw oed. Ar 12 Mehefin 1917 trosglwyddwyd ef i Ffrynt y Gorllewin. Ar 31 Gorffennaf fe'i clwyfwyd gan shrapnel yn ei goes dde, ei fraich dde a'i wddf, ac fe'i hanfodwyd adref i'r Almaen am weddill cyfnod y rhyfel.[3]
Athro a swyddi eraill
golyguYn dilyn y rhyfel gwnaeth e barhau gyda'i hyfforddiant i fod yn athro. Bu yn athro ysgol gynradd yn Lohne, yn Klein Berßen, ac yn Nahne, i gyd yn 1919 ac 1920. Wedyn cafodd amrywiol swyddi - yn lyfrgellydd, yn ddyn busness, yn athro, gohebydd a golygydd. Y tro cyntaf iddo gael ei dalu am ysgrifennu, oedd fel gohebydd technegol i'r Continental Rubber Company, cwmni cynhyrchu teiars yn yr Almaen.[4]
Priododd yr actores Americanaidd Paulette Goddard (cyn-wraig Charlie Chaplin) ym 1958.
Nofelau
golygu- (1920) Die Traumbude. Ein Künstlerroman; Cyfieithiad Saesneg: The Dream Room
- (ysgrifennwyd 1924, cyhoeddwyd 1998) Gam
- (1928) Station am Horizont; Cyfieithiad Saesneg: Station at the Horizon
- (1929) Im Westen nichts Neues; Cyfieithiad Saesneg: All Quiet on the Western Front (1929)
- (1931) Der Weg zurück; Cyfieithiad Saesneg: The Road Back (1931)
- (1936) Drei Kameraden; Cyfieithiad Saesneg: Three Comrades (1937)
- (1939) Liebe deinen Nächsten; Cyfieithiad Saesneg: Flotsam (1941)
- (1945) Arc de Triomphe; Cyfieithiad Saesneg: Arch of Triumph (1945)
- (1952) Der Funke Leben; Cyfieithiad Saesneg: Spark of Life (1952)
- (1954) Zeit zu leben und Zeit zu sterben; Cyfieithiad Saesneg: A Time to Love and a Time to Die (1954)
- (1956) Der schwarze Obelisk; Cyfieithiad Saesneg: The Black Obelisk (1957)
- (1961) Der Himmel kennt keine Günstlinge (hefyd fel cyfres Geborgtes Leben); Cyfieithiad Saesneg: Heaven Has No Favorites (1961)
- (1962) Die Nacht von Lissabon; Cyfieithiad Saesneg: The Night in Lisbon (1964)
- (1970) Das gelobte Land; Cyfieithiad Saesneg: The Promised Land
- (1971) Schatten im Paradies; Cyfieithiad Saesneg: Shadows in Paradise (1972)
Gweithiau eraill
golygu- (1931) Der Feind; Cyfieithiad Saesneg: The Enemy (1930–1931); straeon byrion
- (1955) Der letzte Akt; Cyfieithiad Saesneg: The Last Act; ffilm
- (1956) Die letzte Station; Cyfieithiad Saesneg: Full Circle (1974); drama
- (1988) Die Heimkehr des Enoch J. Jones; Cyfieithiad Saesneg: The Return of Enoch J. Jones; drama
- (1994) Ein militanter Pazifist; Cyfieithiad Saesneg: A Militant Pacifist; cyfweliad a thraethodau
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ynganiad Almaeneg: [ˈʔeːʀɪç maˈʀiːaˑ ʀeˈmaʀk]; [ˈɛrɪk məˈriːə rəˈmɑːrk]
- ↑ Nodyn gan Brian Murdoch, Awst 1994, yn All Quiet on the Western Front, cyf. Brian Murdock (Vintage, 1996), tud. 215
- ↑ Remarque Frieden-Schiessen.
- ↑ "Exactly as it happened... (the story of an encounter in Ticino with Remarque and the coach-built Lancia Dilambda, which, following the commercial success of All Quiet on the Western Front, he purchased in 1931 and retained till the late 1960s)". Motor 3506: pages 26–30. date 30 Awst 1969.