Ticino
Un o gantonau'r Swistir yw Ticino (TI) (Almaeneg a Ffrangeg: Tessin). Saif yn ne y Swistir, gerllaw'r ffîn a'r Eidal. Prifddinas y canton yw Bellinzone.
Ticino yw'r unig un o gantonau'r Swistir sydd ag Eidaleg fel prif iaith, gyda 89% o'r trigolion yn ei siarad fel iaith gyntaf. Yn y canton arall lle siaredir Eidaleg, Grisons, siaredir Almaeneg a Romawns hefyd.
Crewyd y canton yn 1803, trwy uno cantonau Lugano a Bellinzone. Bu dadl rhwng y tair prif ddinas, Lugano, Bellinzone a Locarno, pa un fyddai'n brifddinas y canton newydd; yn 1878 dewiswyd Bellinzone fel y brifddinas.
Ticino yw'r unig un o gantonau'r Swistir sydd i'r de o'r Alpau. Mae Llyn Lugano yn y canton.
Cantonau'r Swistir | |
---|---|
Cantonau | Aargau • Bern • Fribourg • Genefa • Glarus • Graubünden • Jura • Lucerne • Neuchâtel • St. Gallen • Schaffhausen • Schwyz • Solothurn• Thurgau • Ticino • Uri • Valais • Vaud • Zug • Zürich |
Hanner Cantonau | Appenzell Ausserrhoden • Appenzell Innerrhoden • Basel Ddinesig • Basel Wledig • Nidwalden • Obwalden |