Eirisgeidh

(Ailgyfeiriad oddi wrth Eriskay)

Ynys yn Ynysoedd Allanol Heledd yng ngogledd-orllewin yr Alban yw Èirisgeidh (Saesneg: Eriskay). Saif rhwng ynysoedd mwy De Uist a Barra, a chysylltir hi a De Uist gan gob a adeiladwyd yn 2001. Poblogaeth Èirisgeidh yn 2001 oedd 133.

Eirisgeidh
Eriskay.jpg
Math ynys, Cyngor Cymuned Edit this on Wikidata
Poblogaeth 143 Edit this on Wikidata
Cylchfa amser UTC±00:00 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynol Ynysoedd Allanol Heledd Edit this on Wikidata
Sir Ynysoedd Allanol Heledd, South Uist Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Yr Alban Yr Alban
Arwynebedd 700 ha Edit this on Wikidata
Gerllaw Cefnfor yr Iwerydd, Sea of the Hebrides Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau 57.0756°N 7.2914°W Edit this on Wikidata

Er mai ynys fechan ydyw, mae'n adnabyddus am nifer o resymau. Yma y glaniodd Charles Edward Stuart (Bonnie Prince Charlie) gyda saith o gymdeithion ar 23 Gorffennaf 1745 i ddechrau gwrthryfel y Jacobitiaid. Yn 1941, yma y bu llongddrylliad yr SS Politician gyda'i chargo o wisgi; digwyddiad a anfarwolwyd yn Whisky Galore.

Lleoliad Eirisgeidh
Èirisgeidh, gyda De Uist yn y cefndir