Ernest Rhys
bardd, awdur, a golygydd
Bardd, nofelydd a golygydd o Loegr o dras Gymreig oedd Ernest Rhys (17 Gorffennaf 1859 – 25 Mai 1946). Fe'i ganed yn Islington, Llundain.
Ernest Rhys | |
---|---|
Ganwyd | Ernest Percival Rhys 17 Gorffennaf 1859 Islington |
Bu farw | 25 Mai 1946 Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd, golygydd, llenor, golygydd cyfrannog |
Priod | Grace Rhys |
Plant | Megan Rhys |
Roedd yn un o sylfaenwyr The Rhymers' Club, gyda W. B. Yeats a T. W. Rolleston. Roedd hefyd yn gyfaill i'r bardd Ezra Pound.
Fe'i cofir yn bennaf am ei waith fel golygydd y gyfres Everyman's Library i gwmni Dent rhwng 1906 a 1946.
Ysgifennodd nifer o nofelau rhamantaidd ag iddynt gefndir Celtaidd yn aml, yn ogystal â cherddi, dau werslyf ar hanes a llenyddiaeth Cymru, ac erthyglau ar y Celtiaid. Fel ei gyfaill W. B. Yeats tueddai i gofleidio'r syniad o'r "Gwyll Celtaidd". Cyfieithiodd gerddi Cymraeg i'r Saesneg a golygodd flodeugerdd Geltaidd ddylanwadol, A Celtic Anthology (1927).[1]
Llyfryddiaeth ddethol
golygu- The Fiddler of Carne (1896). Nofel.
- A London Rose (1894). Cerddi.
- Welsh Ballads (1898). Cerddi.
- The Whistling Maid (1900). Nofel am Gymru.
- The Man at Odds (1904). Nofel am Gymru.
- The Leaf Burners (1917). Cerddi.
- Black Horse Pit (1925). Nofel.
- A Celtic Anthology (1927).
- Rhymes for Everyman (1933). Cerddi.
- Song of the Sun (1937). Cerddi.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Rhys, Ernest, 1859-1946. Prosiect Gutenberg. Adalwyd ar 3 Mai 2012.